Brittany Nocivelli
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ysgoloriaeth ar gyfer Doethuriaeth mewn Gofal Cymdeithasol
Biography
Mae cefndir Brittany Novicelli ym maes seicoleg ac mae ganddi ddiddordeb ymchwil eang yn y maes hwn ar draws bob oedran. Mae’r diddordebau hyn yn cynnwys y rhan y gall ymchwil ei chwarae i wella gofal ac ansawdd bywyd cleifion. Mae cynwysoldeb ymchwil yn ddiddordeb penodol iddi, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ymyriadau a all gynorthwyo cynhwysiant poblogaethau sydd wedi’u tanwasanaethu mewn gwaith ymchwil. Mae cynnwys poblogaeth sy’n aml yn cael eu hallgau o waith ymchwil yn eithriadol o bwysig fel y gall y poblogaethau hyn elwa o ganfyddiadau a chanlyniadau ymchwil.
Mae prosiect ymchwil presennol Brittany yn canolbwyntio ar gynnwys preswylwyr cartrefi gofal mewn gwaith ymchwil trwy nodi’r rhwystrau a’r hwyluswyr i’w cynhwysiant a datblygu ymyrraeth i gynorthwyo proses gwneud penderfyniadau preswylwyr a blaengynllunio ar gyfer ymchwil.
Darllen mwy am Brittany a’u gwaith:
Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2023
“Rydw'i eisiau i breswylwyr cartrefi gofal gael llais mewn ymchwil”
A oes gennych chi brofiad o weithio mewn cartref gofal?