Yr Athro Nigel Rees
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesi
Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
- Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru
-
(Hydref 2022 - Medi 2024)
Teitl y prosiect: 999 R.E.S.P.O.N.D. [emerRgEncy diSPatch decisiONs in coviD-19]
(Hydref 2015-Mawrth 2018)
Teitl y prosiect: Transient Ischaemic Attack 999 Emergency Referral (TIER): feasibility trial
(Hydref 2015-Medi 2017)
Teitl y prosiect: Rapid Analgesia for Prehospital Hip Disruption (RAPID): a feasibility study for a randomised controlled trial
Ymunodd Nigel â’r Gwasanaeth Ambiwlans Brys yng Nghymru yn 1989, ac mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn ymchwil cyn ysbyty a gofal brys. Mae’n Uwch Ymarferydd Parafeddygol a Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae Nigel yn Gymrawd Coleg y Parafeddygon a dyfarnwyd Medal Ambiwlans y Frenhines iddo yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2017.
Mae Nigel wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar dreialon yn ymchwilio i’r defnydd o floc fascia iliaca gan barafeddygon ar gyfer toriadau clun a dichonolrwydd parafeddygon yn atgyfeirio at glinigau pwl ischaemig byrhoedlog arbenigol. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Ymchwilydd Cymru ar rai o’r astudiaethau mwyaf a gynhaliwyd mewn gwasanaethau ambiwlans, gan gynnwys PARAMEDIC-2 sef treialu adrenalin mewn achosion cardiaidd y tu allan i ysbyty a threial RIGHT-2 sy’n ymchwilio i ymyriad cyflym gyda glyseryl trinitrad mewn strôc gorbwyseddol.
Mae Nigel yn rhoi cyflwyniadau’n gyson mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi cyhoeddi dros 70 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, a rhai mewn cyfnodolion o ansawdd megis y New England Journal a’r Lancet. Mae Nigel yn Aelod o Fwrdd Golygyddol y ‘Journal of Paramedic Practice’, ac yn adolygydd cymheiriaid ar gyfer sawl cyfnodolyn ynghyd â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Cenedlaethol yr Alban. Mae hefyd yn aelod o baneli cyllido ymchwil cenedlaethol a Phwyllgorau Llywio Treialon.
Yn y newyddion:
Cymru'n arddangos arfer gorau ymchwil mewn cynhadledd genedlaethol (Mai 2023)
£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd hanfodol yng Nghymru (Hydref 2022)