Fis Tachwedd eleni, rydym yn edrych yn ôl ar sut mae ymchwilwyr o Gymru yn arwain y frwydr yn erbyn canser
4 Tachwedd
Yn gynharach eleni cyhoeddodd arwr Olympaidd Prydain, Syr Chris Hoy, ei fod wedi cael diagnosis terfynol o ganser y prostad cam pedwar, gan arwain at gynnydd yn nifer y chwiliadau i’r GIG am symptomau. Mae'r clefyd hefyd o dan y sbotolau’r mis hwn fel rhan o Movember, sy'n codi ymwybyddiaeth o rai o’r cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin ymysg dynion.
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion yng Nghymru, gan gyfrif am dros chwarter yr holl ddiagnosau newydd o ganser ymysg dynion.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o ariannu un o astudiaethau llawfeddygol mwyaf y byd i ganser y prostad. Mae ELIPSE (Gwerthusiad o lymffadenectomi mewn Llawdriniaeth Canser y Prostad Risg Uchel) yn cymharu dau wahanol fath o lawdriniaeth ar gyfer dynion â chanser y prostad nad yw eto wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff, ond sydd yn wynebu risg o wneud hynny: tynnu’r prostad a'r nodau lymff, i dynnu’r prostad yn unig.
Bydd y canlyniadau'n rhoi tystiolaeth bwysig i glinigwyr a chleifion a fydd yn llywio'r dull gorau o drin triniaeth.
Atal canser y fron rhag lledaenu
Y canser mwyaf cyffredin ymysg menywod yng Nghymru yw canser y fron, gyda dros 2000 o achosion yn cael diagnosis bob blwyddyn. Er y gall triniaeth fod yn llwyddiannus, yn enwedig os caiff y canser ei nodi’n gynnar, mewn tua 5% o fenywod mae canser y fron eisoes wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff erbyn iddynt gael diagnosis. Ar gam mwy datblygedig, efallai mai dim ond ychydig o ddewisiadau triniaeth fydd ar gael i gleifion canser y fron.
Mae Dr Naledi Formosa, Cymrawd Ymchwil Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn defnyddio model 3D arloesol o'r ysgyfaint i ymchwilio i sut a pham mae'r clefyd yn lledaenu, ac a allai unrhyw therapïau newydd ei atal rhag gwneud hynny. Meddai Dr Formosa,
"Bydd model yr ysgyfaint yn efelychu'r hyn sy'n digwydd yn y corff pan fydd canser y fron yn lledaenu i feinweoedd iach yr ysgyfaint, er mwyn i mi allu archwilio sut mae canser y fron yn teithio i rannau eraill o'r corff a'r ffactorau sy'n arwain ato’n lledaenu. Gobeithio y gallwn nodi a oes therapi neu gyffur newydd i atal canser y fron rhag lledaenu, neu hyd yn oed ei wrthdroi."
Delweddu arloesol canser y coluddyn
Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond yr ail o ran canserau sy’n lladd. Fodd bynnag, pan fo diagnosis cynnar, mae'r cyfraddau goroesi yn uchel: bydd naw o bob deg o bobl sy’n cael diagnosis ar y cam cynharaf posibl yn goroesi.
Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfradd gwella o 90% ar gyfer canser sy’n cael ei ganfod drwy sgrinio'r coluddyn. Mae hyn fel arfer ar ffurf colonosgopi, triniaeth ysbyty a all fod yn anghyfforddus i gleifion ac sy’n tarfu arnynt. Mae Canolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid o bob rhan o'r DU ar astudiaeth fawr i werthuso technoleg newydd arloesol i wneud delweddu’n haws ac i wella diagnosis canser y coluddyn.
Bydd astudiaeth ColoCap yn gwerthuso defnyddio "camera mewn capsiwl" hawdd ei lyncu. Ar ôl ei lyncu, mae'n teithio drwy'r stumog, y coluddyn bach a’r coluddyn mawr, gan dynnu lluniau o'r leinin fewnol. Mae delweddau’n cael eu hanfon at recordydd y mae’r claf yn ei wisgo. Mae’r delweddau’n cael eu lawrlwytho a'u hadolygu o bell gan ymgynghorydd meddygol, ac mae'r capsiwl yn teithio drwy’r corff yn naturiol. Gallai fod yn ateb manwl gywir, cost-effeithiol sy'n lleddfu pwysau ar ysbytai ac yn gwella'r nifer sy'n manteisio ar ddiagnosteg y colon a'r rhefr a’i hygyrchedd.
Cynyddu mynediad at dreialon
Yn olaf, mae cwmni biotechnoleg byd-eang yn hybu seilwaith treialon clinigol Cymru fel rhan o'r ymdrechion i ehangu mynediad at dreialon clinigol.
Nod cydweithrediad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â BioNTech, y cwmni y tu ôl i'r brechlyn COVID-19 cyntaf yn seiliedig ar mRNA i gael ei gymeradwyo, yw caniatáu i fwy o gleifion gael mynediad at astudiaethau i driniaethau canser ymchwiliadol.
Ar hyn o bryd mae BioNTech yn noddi treial i frechlynnau canser wedi’u personoli ar gyfer cleifion canser y colon a'r rhefr yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Mae astudiaeth ar wahân ar ganser y pen a'r gwddf hefyd wedi agor yn ddiweddar.
Brwydro canser gydag ymchwil
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, "Rydyn ni’n falch o'r rhan y mae ymchwilwyr o Gymru yn ei chwarae yn y frwydr barhaus yn erbyn canser, yma yng Nghymru ac ar raddfa fyd-eang. Mae pob diagnosis o ganser yn un dinistriol, ond trwy ymchwil gallwn ni lywio sgrinio, diagnosis a thriniaeth, grymuso cleifion a gwella cyfraddau goroesi."
Dysgwch fwy am ein hymchwil ym maes canser drwy Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.
O brosiect ledled y DU i wella diagnosis canser y coluddyn i waith wedi’i ariannu gan ein Cyfadran i ymdrin â chanser y fron yn lledaenu, nod ein hymchwil yw gwella cyfraddau diagnosis, llywio dewisiadau triniaeth ac, yn y pen draw, cynyddu cyfraddau goroesi.