
Copi mewnol ar gyfer dyfarniadau cyllid diweddaraf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
1 Hydref
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi derbynwyr ei ddyfarniadau cyllid diweddaraf heddiw (1 Hydref 2025).
Mae cyllid wedi'i ddyfarnu ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd a chleifion, yn ogystal ag i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ar draws amrywiaeth o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen gymorth i ofalwyr dementia ifanc, heneiddio gyda gofal HIV, gwella canlyniadau lleferydd ar gyfer plant a anwyd yn gynamserol a sgrinio canser y brostad anfewnwthiol – i enwi ond ychydig.
Bydd pum prosiect yn derbyn cyllid o dan y Cynllun Cyllido Integredig sydd â dwy gangen dan arweiniad ymchwilwyr: Cangen 1 a Changen 2, gyda ffocws mewn ymchwil drosi, clinigol, iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, mae 14 o ymchwilwyr unigol wedi derbyn cyllid drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o dan wobr Cymrodoriaeth Doethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gwobr Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Wobr Hyfforddiant Ymchwil a Gwobr yr Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ceisiadau eleni unwaith eto wedi tynnu sylw at ysgogiad ac arbenigedd ymchwilwyr o Gymru mewn ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r prosiectau a ariennir yn dangos ymrwymiad cryf i wella iechyd a lles ac rydym yn falch o gefnogi ymchwil sy'n cael effaith ystyrlon.
"Rydym hefyd yn croesawu'n gynnes y dyfarniadau personol eleni. Mae eu cynigion amrywiol a chymhellol yn adlewyrchu cryfder talent ymchwil ledled Cymru a bydd y dyfarniadau hyn yn cefnogi eu datblygiad parhaus a'u cyfraniad i'w meysydd dewisol."
Mae rhestr lawn o ddyfarniadau cyllid a derbynwyr isod:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Enillwyr Dyfarniadau'r Prosiect
Cynllun Cyllido Integredig - Cangen 1: Ymchwil Drosi a Chlinigol
Dr Jordan Evans - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Profion firaol anadlol wrth reoli babanod twymynol sy'n cyflwyno i ofal brys (prosiect REFINE) Astudiaeth beilot
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£333,027)
Cynllun Cyllido Integredig - Cangen 2: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
Dr Patricia Masterson Algar - Prifysgol Bangor
Cyd-ddylunio ac asesu dichonoldeb rhaglen cymorth cymheiriaid (RhCC) ar gyfer gofalwyr dementia ifanc
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£225,877)
Dr Sam Burr - Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Gwneud y mwyaf o Effaith Therapi Iaith a Lleferydd ar blant ag Anhwylder Sain Lleferydd Cam 2 (prosiect MISLToe_SSD-2): Astudiaeth ddichonoldeb o gasglu'r Set Canlyniadau Craidd yng Nghymru
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£297,653)
Dr Adam Williams - Prifysgol Caerdydd
HIV, Dyfodol Heneiddio a Gofal - astudiaeth o heneiddio gyda HIV yng Nghymru a threfniadau tai a gofal cymdeithasol
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£285,879)
Dr Emily Holmes - Prifysgol Bangor
Gwerthusiad Economaidd Cynnar o systemau epidemioleg sy'n seiliedig ar ddŵr gwastraff i gefnogi strategaethau gwyliadwriaeth a rheoli presennol ar gyfer y norofirws mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£287,885)
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Enillwyr Dyfarniadau Personol
Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dr Ellen Haire - Prifysgol Caerdydd
Datblygu set o ganlyniadau craidd i werthuso anghenion gofal lliniarol a chefnogol cleifion sydd â chlefyd yr afu anfalaen datblygedig.
Dyddiad dechrau: 1 Chwefror 2026 (£55,309)
Mrs Sharon Baker - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Penderfynu ar y protocol ymyrraeth gorau posibl i hyrwyddo datblygiad iaith plant a aned â hollt
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£267,720)
Miss Eleanor Welsh - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Archwilio'r profiadau o fyw gyda syndrom tiwmor etifeddol prin: astudio'r poblogaethau sydd wedi'u tanastudio
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£166,274)
Mr Timothy Osborne - Prifysgol Abertawe
Niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth yng Nghymru: proffiliau demograffig a ffactorau risg
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£273,306)
Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dr Sam Burr - Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Gwella canlyniadau lleferydd ar gyfer plant a anwyd yn gynamserol iawn yng Nghymru (prosiect PROSPER)
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£473,759)
Dr Isobella Honeyborne - Prifysgol Caerdydd
O serwm i hydoddiant: canfod biofarcwyr RNA mewn fesiglau allgellog ar gyfer sgrinio canser y brostad anfewnwthiol
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£599,841)
Dr Huw Morgan - Prifysgol Caerdydd
Datblygu dyfais llif ochrol amlblecs ar gyfer biomarcwyr wrinol i ganfod canserau'r arennau
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£453,483)
Dr Leah McLaughlin - Prifysgol Bangor
Dychmygu'r anhygoel: sut allwn ni gefnogi mwy o rieni i roi organau eu plant ar ôl iddynt farw.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£370,669)
Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil
Dr Bryony Coupe - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£54,290)
Miss Bronagh McGoldrick - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025 (£33,076)
Dr Anna Collenette - Canolfan Iechyd Aberteifi
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£90,280)
Dyfarniad Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg
Miss Rebekah Da Silva Teixeira - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£45,169.60)
Ms Emma Louise Sinnott - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Dyddiad dechrau: 18 Awst 2025 (£13,256)
Miss Sara James - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£18,010)
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.