
#Red4Research 2025: Diwrnod i ddiolch i'r bobl anhygoel sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd
Ar ddiwrnod #Red4Research eleni rydym yn dathlu cyfraniad hanfodol y staff ymchwil sy'n gweithio i ddatblygu diagnosteg, triniaethau, therapïau a brechlynnau'r dyfodol.
Mae ymchwil yn achub bywydau, yn gwella gofal ac yn grymuso pobl â gwybodaeth. Ond nid yw'n digwydd ar ddamwain - mae'n cymryd ymroddiad, cydweithrediad a gwaith caled. O'n dinasoedd prysur i gymunedau arfordirol, mae timau ymchwil yn helpu i newid bywydau ledled Cymru.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae dros 15,495 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymchwil ar draws 798 o astudiaethau ymchwil, ac ar hyn o bryd mae 604 o astudiaethau ar agor yng Nghymru. Mae'r astudiaethau hyn yn cynnwys:
Nod yr astudiaeth hon gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru (sef HCEC) yw gwella'r gefnogaeth i famau, gan gynnwys y rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cael plentyn, trwy gynnal y dadansoddiad economaidd cyntaf erioed o bryder amenedigol.
Ers ei lansio, mae'r astudiaeth hefyd wedi'i ehangu i ddadansoddi effaith economaidd trawma geni, rhywbeth sy'n effeithio ar 30,000 o fenywod bob blwyddyn.
Ei nod yw datblygu cyngor i wella gofal a chefnogaeth i fenywod yn y dyfodol.
Gallai treial therapi genynnau arloesol ledled Ewrop atal dilyniant dementia blaenarleisiol, math o ddementia cynnar, gydag un weithdrefn.
Mae pobl sydd â dementia blaenarleisiol, sydd â mwtaniad genyn penodol, yn cynhyrchu llai o brotein o'r enw progranulin. Mae'r therapi ymchwiliol yn defnyddio gweithdrefn leiaf ymledol i gyflwyno copi swyddogaethol o'r genyn GRN yn uniongyrchol i'r ymennydd. Gallai hyn o bosibl adfer lefelau progranulin ac, yn hollbwysig, atal dilyniant y clefyd.
Ar hyn o bryd mae cleifion yn cael eu recriwtio i'r treial gan Ganolfan Niwrotherapïau Uwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – yr unig leoliad sydd ar agor yn y DU.
Mae gwneud meddyginiaethau yn fwy hygyrch i gleifion yn hanfodol i leihau pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau brys. Mae technoleg arloesol yn cael ei threialu yn Nolgellau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n caniatáu i gleifion gael mynediad at feddyginiaeth ar frys trwy beiriant gwerthu.
Yn ystod y treial dwy flynedd, bydd pobl sy'n cysylltu â GIG 111 y tu allan i oriau ac sydd angen meddyginiaeth ar frys yn cael cynnig yr opsiwn i'w gasglu'n uniongyrchol o'r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau trwy god unigryw.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi:
Mae ymchwil iechyd a gofal yn parhau i fod yn rym pwerus ar gyfer newid sy'n arwain at welliannau mewn gofal, llywio polisi a llunio dyfodol gwasanaethau ledled Cymru. Wrth wraidd y cynnydd hwn mae'r staff ymchwil ymroddedig sy'n cynnal ac yn rhedeg yr astudiaethau hyn.
Rydym yn falch o'r gymuned ymchwil yng Nghymru a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud bob dydd. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ein staff ymchwil, a sicrhau bod ymchwil yn parhau i ffynnu ac yn darparu manteision gwirioneddol i bobl a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt."
Mae angen tîm er mwyn i ymchwil sy'n newid bywydau ddigwydd – a dyma ein tîm ni yng Nghymru.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion, ymgyrchoedd, hyfforddiant a digwyddiadau ymchwil, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.