
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid personol a phrosiect
1 Ebrill
Heddiw (1 Ebrill 2025), mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cael ei ddyfarniadau ariannu diweddaraf.
Mae cyllid dyfarniadau personol wedi’i roi i ymchwilwyr ledled Cymru, gan gynnwys pum dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu, dau ddyfarniad Cyflymydd Personol ac un dyfarniad Datblygu Treialon.
Mae pob un o’r rhai sy’n cael y dyfarniadau personol yn dod yn aelodau o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awtomatig, yn rhinwedd eu dyfarniad. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn cyhoeddi dyfarniadau prosiect y Cynllun Ariannu Integredig.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyd-gyfarwyddwr Interim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Unwaith eto, rydym yn falch o allu darparu arian ar gyfer amrywiaeth o ddyfarniadau personol a phrosiect a fydd yn cefnogi datblygiad ein hymchwilwyr ac yn mynd i’r afael â meysydd pwysig o angen o ran iechyd a gofal.”
Ychwanegodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Roedd y ceisiadau a gyflwynwyd i’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau personol yn gymhellol ac yn amrywiol unwaith eto. Rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu i gymuned ymchwilwyr Cyfadran Cymru gyfan ac yn gobeithio y bydd yr arian hwn yn eu galluogi i wneud cynnydd ystyrlon wrth ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil yn eu dewis feysydd.”
Mae rhestr lawn o ddyfarniadau ariannu a’r sawl sydd wedi’u cael isod:
Dyfarniadau Personol
Dyfarniadau Ymchwilydd sy’n Datblygu
- Mr David Westlake, Prif Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd - Gwerthuso triniaethau ac ymyriadau therapiwtig - cyfuno gwaith sydd wedi’i wneud eisoes yn PhD drwy waith cyhoeddedig sy’n archwilio sut i wneud gwerthusiadau achosol ym maes Gofal Cymdeithasol Plant
- Dr Sarah Thompson, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd - Ymchwil i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - Ymchwil bellach i brofiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal ac i sicrhau bod plant a gofalwyr yn cael eu cefnogi’n briodol
- Dr Sarah Bell, Anesthetydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Mamolaeth, Anesthesia
- Dr Alison Cooper, Uwch-gymrawd Ymchwil Glinigol, Prifysgol Caerdydd - Rheoli clefydau a chyflyrau - Optimeiddio iechyd mislif er mwyn gwella cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol
- Dr Laura Hrastelj, Arweinydd Tîm ar gyfer y Tîm Ysgolion Arbennig a Niwroddatblygiadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Datblygu triniaethau ac ymyriadau therapiwtig - Datblygu a defnyddio ymyriad Cyfathrebu Amgen a Chynyddol
Dyfarniad Cyflymydd Personol
- Dr Matthijs Backx, Ymgynghorydd clefydau heintus a microbioleg feddygol, Prifysgol Caerdydd - Atal clefydau a chyflyrau - adeiladu ar ddata peilot a gynhyrchwyd gan ein hadran ar y risgiau sy’n gysylltiedig â datblygu clefyd ffyngaidd ymledol
- Dr Barry Bentley, Darllenydd mewn Biobeirianneg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd - Datblygu triniaethau ac ymyriadau therapiwtig - dulliau o gadw meinweoedd neu organau am gyfnod hir heb eu niweidio
Dyfarniad Datblygu Treialon
- Dr Chloe George, Pennaeth Datblygu Cydrannau Gwaed/Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Gwasanaeth Gwaed Cymru / Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre - Hematoleg a Meddygaeth Trallwyso
Dyfarniadau prosiect
Dyfarniadau’r Cynllun Ariannu Integredig
- Dr Freya Davies, Uwch-gymrawd Ymchwil Glinigol, Prifysgol Caerdydd - Deall profiadau gosod dyfais yn y groth i gyd-gynhyrchu offer cefnogi penderfyniadau effeithiol ynghylch lleddfu poen.
- Yr Athro Stephen Bain, Athro Meddygaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Asesu dichonoldeb ymarferwyr anfeddygol yn cynnal ffotogeuliad ar gyfer PDR (AVENUE-PDR): Treial dichonoldeb
- Dr David Gillespie, Prif-gymrawd Ymchwil / Cyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd, Prifysgol Caerdydd - Effeithiolrwydd negeseuon testun a anfonir gan feddygfeydd i gynyddu profion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol drwy lwyfan profi drwy’r post ar-lein (Texting for Testing)
- Dr Nathan Bray, Uwch-ddarlithydd, Prifysgol Bangor - Addasu ac Ansawdd Bywyd: Gwella dulliau o fesur canlyniadau ym maes anabledd, addasu a’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol (AdaptQoL)
- Dr Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol, Prifysgol Bangor - Astudiaeth ddichonoldeb i archwilio cyflwyno peiriant rhoi meddyginiaeth a reolir o bell yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yng Nghymru. Astudiaeth Gwneud Meddyginiaeth o Bell yn Hawdd (REMEDY)