Placeholder Image

Siân Griffin

Arweinydd Arbenigol ar Anhwylderau’r Aren

Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (Ebrill 2016 - Mawrth 2019)

Teitl y prosiect: Perform a detailed immunophenotyping and bio marker analysis of patients who are sensitised


Mae Dr Siân Griffin yn Arenegydd Ymgynghorol yng Nghaerdydd, ac mae’n Uwch-ddarlithydd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Hi yw Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Drawsblaniadau Prydain ac mae’n Gadeirydd ar Grŵp Astudio Trawsblaniadau Clinigol Consortiwm Ymchwil Arennol y DU (Mae’n gyn-Gymrawd Hyfforddiant Clinigol i’r Cyngor Ymchwil Feddygol (Doethuriaeth mewn Imiwnoleg ym Mhrifysgol Caergrawnt), mae’n Gymrawd Ôl-ddoethurol Cymdeithas y Galon America (Prifysgol Washington, Seattle) ac yn enillydd Gwobr Amser Ymchwil Glinigol (2016-2019).

Ar hyn o bryd, mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Prif Ymchwilydd, ‘Improving Transplant Opportunities for Patients who are Sensitised’ (ITOPS, IRAS 231116. Dan nawdd Kidney Research UK)
  • Prif Ymchwilydd, Ymateb Imiwnedd CMV mewn Derbynyddion Trawsblaniad Arennol (CMV- IR, IRAS 235946). Cydlynu samplau clinigol i gefnogi astudiaethau labordy Dr Farah Latif (WCAT), dan oruchwyliaeth yr Athro Ian Humphries a Dr Richard Stanton, Prifysgol Caerdydd (Dan nawdd Wellcome Trust)
  • Prif Ymchwilydd, ‘Engaging and supporting women with Chronic Kidney Disease with pre-conception decision making: A mixed methods study’ (CKD-ENGAGE, IRAS 281999. (Dan nawdd Kidney Care UK a Chymdeithas Arennol Prydain)
  • Cyd-ymchwilydd, ‘Understanding the holistic experiences of living with a kidney transplant’ (IRAS 274448, Dan nawdd Cymdeithas Arennol Prydain)
  • Cyd-ymchwilydd, ‘Transplant Antibody-mediated Rejection: Guiding Effective Treatments’ (TAR:GET-1, IRAS 291748. Dan nawdd rhaglen Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd)
  • Prif Ymchwilydd ar dreialon ychwanegol mewn dialysis, glomerulonephritis (gan gynnwys vasculitis, syndrom nephrotic, IgA nephropathy, aHUS a membranous nephropathy) a thrawsblaniadau

Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022) 

Cleifion arennau risg uchel Cymru yn rhan o astudiaeth COVID newydd (Medi 2021)

Cysylltwch â Siân

Email

Twitter