Placeholder Image

Jeanette Wells

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu

Mae Jeanette wedi gweithio yn y GIG am 25 mlynedd. Ar ôl cwblhau hyfforddiant rheoli at lefel diploma yn 2000, ymunodd â thîm Ansawdd a Diogelwch Cleifion y Cyfarwyddwr Meddygol gan arwain ar nifer o fentrau lleol a chenedlaethol. Dychwelodd Jeanette at astudiaethau academaidd a llwyddodd i ennill gradd Meistr mewn Agweddau Cyfreithiol Ymarfer Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2006.

Yn 2011, ymunodd Jeanette â’r tîm Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB). Yn ystod ei hamser â’r tîm mae wedi sefydlu sawl cymuned ymchwil lle caiff ymchwil ei ymgorffori ochr yn ochr â gofal arferol, wedi cyrchu a datblygu cyfleuster lle mae ymchwil yn BIPAB yn ffynnu, y Ganolfan Ymchwil Glinigol ac Arloesi, wedi sefydlu’r Banc Nyrsys Ymchwil cyntaf yng Nghymru, wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid elusennol i sefydlu tîm cyflenwi ymchwil yn Ystbyty Nevill Hall ac wedi cael dyrchafiad i swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu.

Mae Jeanette yn edrych ymlaen at weithio ag uwch gydweithwyr i sicrhau bod cyflenwi ymchwil yn BIPAB yn gyson ag agenda Dyfodol Clinigol.

Mae Jeanette yn rhan o Grŵp Gweithredol Cefnogi a Chyflenwi, Grŵp Cydweithio Cefnogi Cyfarfodydd a Chyflenwi Gwasanaethau Rheolwyr Cyllid Ymchwil a Datblygu Cymru Gyfan, CORD, y Bwrdd Rheoli Newid a’r Grŵp Cydweithio ar gyfer Cefnogi a Chyflenwi.


Yn y newyddion:           

Timau ymchwil Cymru’n cyfrannu at astudiaeth i leihau’r angen am gymorth anadlu mewnwthiol ar gyfer cleifion COVID-19 (Awst 2022)

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol (Rhagfyr 2020)

Ymchwil yn rhoi cinio Nadolig yn anrheg i blant a'u teuluoedd (Rhagfyr 2020)

Sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cysylltwch â Jeanette

E-bost

Ffôn: 01633 238523

Twitter