
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi apwyntiadau Arweinwyr Arbenigeddau Cymru
14 Mawrth
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi penodiadau newydd Arweinwyr Arbenigeddau Cymru, i barhau i hyrwyddo a chefnogi darpariaeth ymchwil, adeiladu rhwydweithiau o brif ymchwilwyr yn eu harbenigedd, a chefnogi'r nifer sy'n astudio ledled Cymru, fel rhan o Wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Trwy'r broses benodi hon, crëwyd rolau Arweinwyr Arbenigeddau newydd mewn delweddu a gofal lliniarol, yn ogystal â phenodiadau mewn meysydd arbenigol sefydledig.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ein Harweinwyr Arbenigeddau yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymchwil ar draws yr ystod lawn o bortffolios clinigol sy'n cryfhau ein dull gweithredu ymchwil Cymru'n Un, yn ogystal â helpu i gynyddu ein gallu i ymgymryd ag ymchwil fasnachol a gefnogir gan fuddsoddiad gan raglen y Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddygaeth Brand (neu'r VPAG). Maent hefyd yn bwysig wrth rwydweithio ar draws y pedair gwlad mewn cyfarfodydd Arweinwyr Arbenigeddau'r DU, sy'n galluogi ymgysylltu ar draws rhwydwaith ehangach."
Arweinwyr Arbenigeddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025-2028
Heneiddio - Dr Ben Jelley
Anesthesia, Meddygaeth Amdriniaethol a Rheoli Poen - Dr Danielle Huckle
Canser - Swydd Wag (i ddilyn)
Cardiofasgwlaidd - Swydd Wag
Plant a Phobl Ifanc - Dr Philip Connor
Gofal Critigol - Jade Cole
Dementia a Niwroddirywiaeth - Dr Chineze Ivensohttps://ymchwiliechydagofalcymru.org/ivenso
Dermatoleg - Yr Athro John Ingram
Diabetes - Yr Athro Steve Bain
Y Glust, y Trwyn a'r Gwddf – Mr Ali Al-Hussaini
Gastroenteroleg - Dr Dharmaraj Durai
Genomeg a Heintiau Prin - Dr Francis Sansbury
Haematoleg - Yr Athro Raza Alikhan
Hepatoleg - Swydd Wag
Delweddu - Dr Kieran Foley
Heintiau - Jonathan Underwood
Anhwylderau'r Arennau a'r Llwybr Wrinol – Yr Athro Sian Griffin
Iechyd Meddwl - Dr Kimberley Kendall
Anhwylderau Metabolig ac Endocrin - Yr Athro Aled Rees
Anhwylderau Cyhyrysgerbydol - Yr Athro Piers Page
Anhwylderau Niwrolegol - Dr Thomas Massey
Offthalmoleg - Yr Athro Marcela Votruba
Iechyd Geneuol a Deintyddol - Yr Athro Nicola Innes
Lliniarol - Swydd Wag
Gofal Sylfaenol - Yr Athro Andrew Carson-Stevens
Iechyd Cyhoeddus - Swydd Wag
Iechyd Atgenhedlol a Genedigaeth - Trudy Smith
Anadlol - Dr Jamie Duckers
Gofal Cymdeithasol / Gofal Preswyl - Lorna Stabler - 1 flwyddyn
Strôc - Dr Manju Krishnan
Llawfeddygaeth - James Galea
Trawma a gofal brys - Dr. Suresh Kumar Gopala Pillai