
Ymchwilwyr yng Nghymru yn arwain astudiaeth newydd ar ddefnydd o wrthfiotigau mewn llawdriniaeth canser y croen
27 Mawrth
Mae ymchwilwyr yng Nghymru yn cynnal astudiaeth i benderfynu a ddylid rhagnodi gwrthfiotigau i gleifion sy’n derbyn llawdriniaeth canser y croen i leihau’r perygl o heintiau mewn clwyfau.
Mae EXCISE (Archwilio gwrthfiotigau ar gyfer trychiad llawfeddygol canser y croen wlserog neu EXamining antibiotics for ulCerated skIn cancer Surgical Excision) yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ei nod yw darganfod a yw gwrthfiotigau drwy’r geg yn effeithiol i atal haint clwyf llawfeddygol mewn oedolion sydd wedi cael tynnu canser y groen wlserog yn llawfeddygol o dan anesthetig lleol.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Rachel Abbott, dermatolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n arbenigo mewn canser y croen a llawdriniaeth croen a Dr Emma Thomas-Jones, prif Gymrawd Ymchwil a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, uned treialon clinigol sydd wedi’i chofrestru gan UKCRC.
Dywedodd Dr Abbott: "Mae ein tîm ni, ynghyd â'r gymuned ehangach o gleifion a chlinigwyr, wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r treial hwn ac rydym bellach yn edrych ymlaen at ddarparu tystiolaeth gadarn i lywio gofal cleifion yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Emma Thomas-Jones: “Rwy'n falch iawn o gyd-arwain y treial hwn gyda Dr Rachel Abbott, sy'n barhad o'n gwaith i sefydlu'r dystiolaeth ar gyfer defnydd priodol o wrthfiotigau i gleifion sy'n cael llawdriniaeth canser y croen. Gobeithio y bydd y treial yn arwain at safoni ymarfer o fewn y GIG ac y bydd o fudd i gleifion."
Sut fydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal?
Mae canser y croen yn y DU ar ei uchaf erioed yn y DU ac mae dros 200,000 o bobl yn cael tynnu eu canser y croen yn llawfeddygol.
Mae rhai pobl yn datblygu canserau’r croen sy’n torri trwy wyneb y croen gan achosi clwyf ar y croen (o’r enw canser y croen wlserog) sydd chwe gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu haint clwyf ar ôl llawdriniaeth.
Mae meddygon yn aml yn rhagnodi gwrthfiotigau ar adeg y llawdriniaeth i atal heintiau clwyf, ond nid ydym yn gwybod a yw gwrthfiotigau yn lleihau’r perygl o gael haint.
Mae’r hap-dreial dan reolaeth yn cynnwys 380 o oedolion yn cael trychu canserau’r croen wlserog mewn ysbytai GIG ar draws y DU.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan naill ai’n derbyn dos untro o wrthfiotigau neu blasebo i asesu’r effaith ar gyfraddau heintiau clwyf ôl-lawdriniaeth.
Ariennir yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac fe’i cynhelir ar y cyd â Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe, Prifysgol Efrog, Prifysgol Rhydychen, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd yn rhedeg am dair blynedd a disgwylir y canlyniadau yn 2028.