Suzanne, Debra, Lewis & Orod: Bod Yn Rhan Ymchwil

Ymgyrch Bod Yn Rhan O Ymchwil: Gweithio ledled y DU i hyrwyddo sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil

Yma edrychwn yn ôl ar sut y gwnaethom hyrwyddo’r rhan hollbwysig y mae’r cyhoedd yn ei chwarae drwy gymryd rhan mewn ymchwil a sut y gwnaethom ddiolch i bobl sydd wedi cymryd rhan dros y flwyddyn ddiwethaf trwy ein hymgyrch Bod yn Rhan o Ymchwil.

Lansiwyd Bod yn Rhan o Ymchwil ar 17 Mai ac roedd yn ymgyrch gydweithredol fis o hyd a hyrwyddwyd yn y pedair gwlad i annog pobl ledled y DU i gymryd rhan mewn ymchwil.

I nodi dechrau’r ymgyrch hon, fe wnaethom dynnu sylw at brofiadau Debra Evans a Suzanne Richards, Nyrsys Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a weithiodd ar dreial y brechlyn Oxford/Astra-Zeneca yng Nghasnewydd. 

Diolchodd Debra a Suzanne i’r cyhoedd am gymryd rhan mewn ymchwil COVID-19 ac fe wnaethon nhw annog mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan yn y dyfodol.
 

 

Yn ogystal â hyn, fe wnaethom ryddhau canlyniadau arolwg YouGov a gynhaliwyd ar ran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a ddangosodd fod mwy na 90% o bobl yng Nghymru o’r farn bod ymchwil iechyd yn y DU wedi bod yn bwysig yn ystod pandemig COVID-19.

Yn ystod yr ymgyrch fe wnaethom ni rannu stori Brian a Michael, dau gyfranogwr yn nhreial brechlyn COVID-19 Oxford/AstraZeneca, a rannodd eu barn ar fod yn rhan o’r ymchwil arloesol hwn.

“Mae wedi bod yn brofiad hynod o bositif,” meddai Brian, sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ymarferydd Ymarferion Adfer Cardiaidd. “Mae fy nheulu yn wirioneddol falch – maen nhw’n meddwl fy mod i yma yng Nghymru yn achub y byd!” 

Diolchodd Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd treial brechlyn COVID-19 Novavax a’r treial COV-Boost yn Wrecsam, i’r bobl am gymryd rhan mewn ymchwil COVID-19 yng Nghymru.

Yn ogystal â rhannu profiadau ymchwil staff a’r cyhoedd, fe wnaethom dynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru.

Siaradodd Lewis Darmanin, Rheolwr Ymchwil Gofal Sylfaenol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, am y cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil trwy eich practis meddyg teulu neu fferyllfa.
 

I helpu pobl i ddysgu mwy am ymchwil COVID-19, fe wnaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn Lloegr sefydlu cwrs newydd i’r cyhoedd o’r enw, COVID-19: Understanding the Research Behind the Pandemic. Gall y cwrs ar-lein hwn helpu pobl yng Nghymru i ddarganfod sut yr ymatebodd gwyddonwyr i’r pandemig a sut maen nhw’n datblygu triniaethau a brechlynnau.

Cofrestrwch i’r cylchlythyr Be Part of Research chwarterol newydd i ddysgu mwy am gymryd rhan mewn ymchwil ledled y DU.

Os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil yng Nghymru, defnyddiwch y gwasanaeth Be Part of Research ar-lein i chwilio am gyfleoedd sy’n agos atoch chi.
 


Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Mehefin 2021