Y pum ffordd y mae ymchwil yng Nghymru yn gwella bywydau plant a phobl ifanc
20 Tachwedd
Ledled Cymru, mae'r gymuned a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd sy'n wynebu plant a phobl ifanc.
Ar Ddiwrnod Plant y Byd (20 Tachwedd) dyma bum ffordd y mae ymchwilwyr yn helpu i greu dyfodol iachach, mwy diogel a thecach i blant yng Nghymru a thu hwnt:
Amddiffyn rhag cam-fanteisio troseddol
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan bartneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) wedi tanlinellu pwysigrwydd dull cydgysylltiedig, amlasiantaeth i fynd i'r afael â gangiau Llinellau Cyffuriau yn effeithiol.
Pwysleisiodd yr astudiaeth, dan arweiniad Dr Nina Maxwell, fod cydweithio rhwng ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, darparwyr gofal iechyd a gorfodi'r gyfraith yn hanfodol ar gyfer adnabod a diogelu unigolion agored i niwed sydd mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio gan rwydweithiau troseddol.
Lleihau bwlio mewn ysgolion cynradd
Dangosodd y treial mwyaf o'i fath yn y DU, a reolir gan y Ganolfan Treialon Ymchwil, y gall rhaglen wrth-fwlio strwythuredig gost isel leihau bwlio mewn ysgolion cynradd yn sylweddol.
Wrth brofi'r rhaglen KiVa yn y Ffindir, canfu'r astudiaeth ostyngiad o 13% mewn digwyddiadau bwlio, gyda'r rhaglen yn profi'n effeithiol ar draws ystod eang o fathau o ysgolion, o ysgolion gwledig bychain i ysgolion trefol mawr.
Tynnu sylw at ffactorau sy'n gysylltiedig â gordewdra
Daeth adolygiad o ymchwil, a gynhaliwyd gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â thystiolaeth at ei gilydd i nodi ffactorau sy'n effeithio ar ordewdra plant a pha mor ddylanwadol ydyn nhw.
Gan helpu i lywio strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru, canfu'r adolygiad y gall lleihau cynnydd pwysau cyflym yn ystod 12 mis cyntaf bywyd, rhoi cyfleoedd i blant rhieni sy'n gweithio fwyta'n iachach a bod yn egnïol a helpu menywod sydd dros bwysau, ac yn ceisio beichiogi, i golli pwysau, helpu i leihau gordewdra plentyndod.
Mynd i'r afael â gorddefnyddio gwrthfiotigau
Cymerodd y Ganolfan Treialon Ymchwil ran yn y treial mwyaf o'i fath yn y DU i benderfynu a allai prawf gwaed o'r enw procalcitonin (PCT) helpu i leihau hyd triniaeth wrthfiotig i blant yn yr ysbyty. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn sbardun allweddol ymwrthedd gwrthficrobaidd, un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf y byd.
Er gwaethaf dadansoddiad blaenorol addawol, canfu'r astudiaeth nad oedd defnyddio'r biofarciwr PCT i lywio penderfyniadau triniaeth yn lleihau hyd triniaeth wrthfiotigau o'i chymharu â gofal arferol. Fodd bynnag, rhoddodd yr astudiaeth hon wybodaeth bwysig i ymchwilwyr ar gyfer treialon biofarcwyr yn y GIG yn y dyfodol.
Cefnogi plant â phrofiad o fod mewn gofal mewn addysg
Datgelodd ymchwil, gan ddefnyddio Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y gall cyflawniadau academaidd plant mewn gofal amrywio'n sylweddol yn seiliedig ar eu profiadau o ofal.
Canfu'r astudiaeth, dan arweiniad Dr Emily Lowthian, fod ataliadau a gwaharddiadau, symud o ysgol i ysgol a bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ffactorau pwysig sy'n cyfrannu at gyrhaeddiad TGAU. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i wella rhannu data rhwng ysgolion a gofal cymdeithasol, gan y gall plant sydd â phrofiadau gofal cynnar gael eu hanwybyddu.
Ceisiwch yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n digwydd ledled Cymru drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.