Digwyddiad Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd

Arddangoswyd ymchwil iechyd a gofal o bob rhan o Gymru yn y Senedd

4 Gorffennaf

Daeth mwy na 25 o sefydliadau ymchwil at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ym Mae Caerdydd yr wythnos hon a gynhaliwyd gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar ymchwil feddygol.

Mae'r Grŵp yn dwyn ynghyd Aelodau'r Senedd o bob plaid, y trydydd sector, diwydiant, cleifion a chlinigwyr, a'i nod yw ysgogi gwelliannau yn yr amgylchedd ymchwil feddygol yng Nghymru. 

Ymhlith y sefydliadau a fynychodd roedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a llawer o'i bartneriaid yno, gan gynnwys Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Cronfa Ddata SAIL, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol a Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Roedd y digwyddiad, a noddwyd gan ABPI Cymru, hefyd yn arddangos ehangder yr ymchwil sy'n cyfrannu at driniaethau newydd gan elusennau fel Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser Cymru, y Sefydliad Ymchwil Dementia a'r Gymdeithas MND.

Roedd Aelodau o'r Senedd, a fynychodd o bob plaid wleidyddol a rhan o Gymru, yn awyddus i fynd â gwybodaeth yn ôl am ymchwil i'w rhannu â'u hetholwyr, a buont yn siarad hefyd â chynrychiolwyr o sefydliadau'r GIG gan gynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd y Grŵp Trawsbleidiol adroddiad ar sut mae ymchwil feddygol o fudd i bobl Cymru, yn enwedig economi Cymru. Roedd nifer o argymhellion lle mae gwaith yn mynd rhagddo, gan gynnwys gwella mynediad at dreialon clinigol; blaenoriaethu ymchwil fel sbardun economaidd allweddol drwy gefnogi prifysgolion a chymell cydweithio, ac integreiddio ymchwil i gynllunio'r gweithlu.

Darganfyddwch fwy am y Grŵp Trawsbleidiol.