NCMH logo

Canolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH)

At y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) rydym yn gweithio i ddysgu mwy am yr hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl, o’n hamgylchedd a’n profiadau bywyd i’n geneteg a’n cyfansoddiad biolegol.

Mae NCMH yn dod ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor ynghyd er mwyn dysgu mwy am sbardunau ac achosion problemau iechyd meddwl.

Ein nod yw helpu i wella diagnosis, triniaeth a chymorth i’r miliynau o bobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt bob blwyddyn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r stigma y mae llawer o bobl yn ei wynebu. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn ymgysylltu â gwasanaethau a’u defnyddwyr, y trydydd sector a’r cyhoedd yn ehangach er mwyn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl, ac yn cefnogi ac yn cynnal gwaith ymchwil iechyd meddwl.