Placeholder Image

Yr Athro Sue Bale OBE

Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

Mae’r Athro Sue Bale wedi bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ers mis Mehefin 2013, a chyn hynny roedd hi’n Gyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol (Ymchwil a Datblygu) am naw mlynedd. Mae’n arwain y gwaith ymchwil o fewn y sefydliad, yn datblygu strategaeth a rhoi polisi cenedlaethol ar waith, yn annog cyfranogiad mewn gweithgarwch ymchwil, a chydlynu a goruchwylio ymchwil yn y sefydliad. Mae ganddi Gadair ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae gan Sue yrfa mewn ymchwil iachâd clwyfau ac mae wedi cyhoeddi’n eang dros y 38 mlynedd diwethaf. Ei hymarfer ymchwil a’i diddordebau addysg yw gofal clwyfau, anymataliaeth, dermatitis a dementia. Ar hyn o bryd hi yw Cyn-lywydd diweddaraf Cymdeithas Rheoli Clwyfau Ewrop. Yn 2004, cafodd Sue ei anrhydeddu am ei gwasanaeth i iachâd clwyfau pan gyflwynodd y Coleg Nyrsio Brenhinol Gymrodoriaeth iddi am ei chyfraniad eithriadol i ymchwil nyrsio, datblygu ac ymarfer gofal clwyfau yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2014, arwisgwyd Sue ag OBE gan Ei Mawrhydi y Frenhines am wasanaethau i nyrsio ac ymchwil nyrsio.


Darllenwch fwy am eu gwaith:

Rhowch le amlwg i’ch ymchwil sy’n newid bywydau yng Ngwobrau Arloesi 2021 (Medi 2021)

Tîm Astudio Brechlyn COVID-19 Rhydychen yn ennill gwobr arloesedd MediWales (Rhagfyr 2020)

Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2020 (Hydref 2020)

Cymru i chwarae rhan bwysig mewn treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19 (Mai 2020)

Sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cysylltwch â Sue

E-bost