Dr Sarah Bell

Dr Sarah Bell

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2022 - 2025)

Teitl y prosiectDevelopment of research proposals and grant applications in areas of interest


Bywgraffiad

Mae Dr Bell wedi bod yn Anesthetydd Ymgynghorol gyda diddordeb mewn anesthesia obstetrig yng Nghaerdydd ers 2015. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwaedlif ôl-enedigol, sepsis y fam a gwerthusiadau o’r broses o ymyriadau cymhleth. Hi oedd un o’r clinigwyr arweiniol ar gyfer prosiect gwella ansawdd OBS Cymru (Strategaeth Gwaedu Obstetrig Cymru), sef menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella a safoni gofal gwaedlif ôl-enedigol ledled Cymru.

Cafodd Wobr Amser Ymchwil y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2022 ac mae’n un o’r Prif Ymchwilwyr ar gyfer astudiaeth OBS UK a ariennir gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.


Darllen mwy am Sarah a’u gwaith:

Tair gwobr yn dathlu ymchwil fydd yn newid bywydau yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021

Dyfarnu amser ymchwil gwarchodedig i ddarpar arweinydd ymchwil yng Nghymru

Lleihau gwaedu difrifol ar ôl rhoi genedigaeth yng Nghymru o ganlyniad i ymchwil sy'n achub bywydau

 


 

Sefydliad

Consultant Anaesthetist at Cardiff & Vale UHB

Cyswllt Sarah

E-bost