Astudiaethau brechlyn COVID-19

Ymchwilio i Frechlyn yn Erbyn COVID-19 (COV002)

Noddwr: Prifysgol Rhydychen

Safle: Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan    Lleoliad: Casnewydd


Hap-astudiaeth Cyfnod 3, Ddwbl-ddall, Wedi’i Rheoli i Asesu Effeithlonrwydd a Diogelwch Ad26.COV2.S i Atal COVID-19 trwy-gyfrwng-SARS-CoV-2 mewn Oedolion 18 Oed a Hŷn

Noddwr: Jansses-Cilag Ltd

Safle: Iechyd Cyhoeddus Cymru    Lleoliad: Caerdydd


Hap-dreial Arsylwyr-Ddalledig Cyfnod 3 yn Defnyddio Plasebo fel Cymharydd i Werthuso Effeithlonrwydd a Diogelwch Brechlyn Nanoronyn Protein Sbigyn Ailgyfunol SARS-CoV-2 (SARS-CoV-2 rS) gydag Adjiwfant Matrix-M1 mewn Cyfranogion sy’n Oedolion 18-84 Oed

Noddwr: NOVAVAZ, INC.

Safle: Iechyd Cyhoeddus Cymru    Lleoliad: Wrecsam


Brechlyn COVID-19 Gronyn Tebyg i Goronafeirws (CP-PRO-CoVLP-021)

Noddwr: Medicago Inc

Hap-astudiaeth, Arsylwyr-Ddalledig, yn Defnyddio Plasebo fel Cymharydd, Cyfnod 2/3 i Asesu Diogelwch, Effeithlonrwydd ac Imiwnogenigrwydd Brechlyn COVID-19 Gronyn Ailgyfunol Tebyg i Goronafeirws mewn Oedolion 18 Oed neu Hŷn

Bydd yr astudiaeth hon y mae Medicago Inc. yn ei noddi’n gwerthuso brechlyn arbrofol i weld a yw’n gallu helpu i atal neu reoli heintiau COVID-19. Bydd yr astudiaeth yn gwerthuso effeithlonrwydd a diogelwch Brechlyn COVID-19 Gronyn Tebyg i Goronafeirws. Bydd cyfranogwyr yn derbyn 2 ddos o’r brechlyn arbrofol (brechlyn CoVLP wedi’i gyfuno â’r fformiwleiddiad adjiwfant AS03 CoVLP) a 2 ddos o blasebo (cyffur ffug).

Caiff hyd at 30000 o gyfranogwyr eu cofrestru yn yr astudiaeth. Caiff yr astudiaeth ei chynnal mewn nifer o safleoedd yn yr Unol Daleithiau, Canada, y Deyrnas Unedig, Ewrop ac America Ladin.

Safle: Iechyd Cyhoeddus Cymru    Lleoliad: Wrecsam


ComFluCov

Cyfnod IV hap-dreial rheoledig sengl-ddall amlganolfan y DU i gadarnhau adweithedd ac imiwnogenigrwydd brechlynnau COVID-19 a roddir ar yr un pryd â brechlyn tymhorol y ffliw

Bydd y treial ComFluCOV yn cadarnhau diogelwch, yn ogystal ag adweithiau imiwn, wrth roi'r brechlynnau sydd wedi’u cymeradwyo ar hyn o bryd ar gyfer COVID-19 ar yr un pryd â brechlynnau argymelledig y ffliw o dymor2020/21.

Safle: Iechyd Cyhoeddus Cymru    Lleoliad: Caerdydd


Gwerthuso Brechlyn Atgyfnerthu COVID-19 (Cov-Boost)

Hap-astudiaeth aml-ganolfan cam II y DU i benderfynu ynghylch adweithiau tymor byr ac imiwnogenedd brechiad atgyfnerthu yn erbyn amrywiolion hynafol a newydd o SARS-CoV-2

Safle: Iechyd Cyhoeddus Cymru    Lleoliad: Wrecsam


Com-COV3

Cymharu Cyfuniadau Amserlen Brechlyn Covid-19 ymhlith y Glasoed. Hap-astudiaeth sengl-ddall, cyfnod II amlganolfan i gadarnhau adweithedd ac imiwnogenigrwydd amserlenni brechlyn Covid-19 cyntaf/ atgyfnerthu heterologaidd ymhlith y glasoed

Safle: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro