Astudiaethau COVID-19 eraill

COVIDSurg

Astudiaeth fawr, ryngwladol, arsylwadol yw hon, â’r nod o bennu’r amseru gorau posibl ar gyfer llawdriniaeth ar ôl haint SARS-CoV-2, ac asesu dangosyddion llawfeddygol byd-eang allweddol.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


COVIDSurg-Cancer

Deilliannau Llawdriniaethau Canser Dewisol  yn ystod Argyfwng y Pandemig COVID-19:  Astudiaeth cohort ryngwladol, amlganolfan, arsylwadol.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


Consortiwm amlddisgyblaeth COVID hir: Gwneud y gorau o driniaethau a gwasanaethau ledled y GIG (LOCOMOTION)

Nod yr astudiaeth yw  creu dull “safon aur” o weithredu ar gyfer trin COVID Hir.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


Is-astudiaeth Brechu ENLIST

Ymateb Imiwnyddol i Covid-19 ac Effeithlonrwydd Brechu mewn Cleifion â Chlefyd yr Arennau a/neu Drawsblaniad

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


CANDID

Nyrsys Gofal Critigol a Nyrsys Wedi’u Hadleoli: effaith COVID-19 ar straen cysylltiedig â gwaith.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


Astudiaeth estynedig diogelwch ac imiwnogenigrwydd ar gyfer ChAdOx1 nCoV-19

Astudiaeth ddilynol ar ôl cael cymeradwyaeth ar gyfer treialon COV001 a 002, i ddarganfod beth yw diogelwch a chymeriad tymor hir ymateb imiwnolegol i frechlyn coronafeirws ChAdOx1 nCoV-19.

Ar agor yn: Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


VROOM: Ymateb i Frechlyn Ar/Oddi Ar Methotrexate

Hap-dreial amlganolfan wedi’i reoli yn edrych ar effeithiau gohirio triniaeth methotrexate dos isel dros dro am ddwy wythnos ar ôl brechlyn atgyfnerthu SARS-CoV-2 ar yr ymateb i’r brechlyn mewn oedolion imiwnoataliedig â chyflyrau llidiol, sy’n cynnwys is-astudiaeth mecanistig.

Ar agor yn: Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


PROTECT V - Proffylacsis ar gyfer cleifion mewn risg o haint COVID-19

Nod treial clinigol PROTECT yw denu pobl nad yw eu harennau’n gweithio fel y dylen nhw a/ neu sy’n derbyn mathau penodol o feddyginiaethau imiwnoataliedig, fel y rheini sy’n derbyn trawsblaniad organ solet ac sydd mewn risg benodol o COVID-19 a’i gymhlethdodau, i gofrestru arno. Maen nhw eisiau gwneud prawf o’r defnydd o driniaeth niclosamide trwynol fel mesur proffylactig a allai naill ai atal y clefyd rhag digwydd neu leihau nifer yr achosion lle mae’r clefyd yn dod yn ddifrifol neu’n bygwth bywyd.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 


Archwilio effeithiau gweithio gartref ar staff brysbennu galwadau ffôn 999

Archwilio effeithiau gweithio gartref ar glinigwyr brysbennu galwadau ffôn 999 mewn ymateb i Covid-19: Astudiaeth ansoddol.

Ar agor yn: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


CATCH ar CBCT

Newidiadau Arleisiol Cysylltiedig â Covid (CATCH) ar Domograffeg Gyfrifiadurol Pelydr Côn mewn cleifion canser.

Ar agor yn: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


Diabetes pediatrig – dechrau’r clefyd ac anghydadferiad yn y pandemig

Diabetes mellitus pediatrig – dechrau’r clefyd ac anghydadferiad yn ystod y pandemig; oes yna gysylltiad cyfamserol â Sars-CoV-2?

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


PEACH

Procalcitonin: Gwerthuso gwrthfiotigau mewn cleifion yn yr ysbyty â COVID-19

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


ASTUDIAETH MEWNWELEDIAD LABORDY NEWYDD CYNNAR COVID-19 -COVID-19 ENLIST

Nod cyntaf astudiaeth COVID-19 ENLIST yw defnyddio samplau sy’n cael eu casglu oddi wrth gleifion yr amheuir bod COVID-19 arnyn nhw pan maen nhw’n troi i fyny yn yr ysbyty.

Bydd cymharu patrwm yr ymatebion imiwnyddol rhwng y rheini sy’n ymateb i’r driniaeth a’r rheini sydd ddim yn ymateb yn helpu i nodi mecanweithiau ymwrthedd i driniaeth. Rhagwelir y bydd hyn yn cefnogi dod o hyd i driniaethau newydd.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Asesiad o Ymateb Argyfwng COVID-19 (CERA)

Nod yr astudiaeth yw asesu deilliannau iechyd y meddygon hynny ar y rheng flaen sy’n delio â’r brigiad mewn achosion CODIV-19. Bydd yn canolbwyntio ar feddygon sy’n gweithio yn yr ardaloedd heriol, yr adran argyfwng, anesthesia a meddygaeth gofal dwys..

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


COVER: Astudiaeth Gwasanaeth Fasgwlaidd Covid-19

Penderfynu ar effaith y pandemig COVID-19 ar ddarpariaeth, arfer a deilliannau llawdriniaeth fasgwlaidd.

Bydd astudiaeth COVER yn ddarpar brosiect amlganolfan i edrych ar yr addasiadau i’r gwasanaeth fasgwlaidd, y ffordd o reoli’r cyflwr a deilliannau ymyriadau yn ystod y pandemig COVID-19.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Astudiaeth PHIND

Gwerthusiad Clinigol o Brawf Pwynt Gofal i Nodi Ffenoteipiau yn y Syndrom Trallod Anadlu Acíwt

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ataliwyd yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Co-VIDA: Offeryn llesiant digidol i asesu effaith seicolegol y pandemig COVID-19 ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ansawdd y gofal y mae gweithwyr iechyd yn ei ddarparu’n lleihau os yw eu hiechyd meddwl yn gwaethygu, a bod hyn hefyd yn hybu absenoldeb neu hyd yn oed ymddiswyddiadau. Mae’n bosibl bod newidiadau mewn llesiant iechyd meddwl yn ystod pandemig yn gysylltiedig â risg benodol neu ffactorau amddiffynnol – ac mae deall y rhain o werth cynhenid. Mae gwaith a wnaed yn Tsieina yn ddiweddar ynglŷn â gweithwyr iechyd wedi datgelu gorbryder, iselder, diffyg cwsg a thrawma cynyddol. Fodd bynnag, o ystyried y gwahaniaethau allweddol rhwng systemau iechyd Tsieina a’r DU, a diffygion yn yr astudiaeth honno, awgrymir bod angen brys i wneud ymchwil newydd yn y DU i ddeall effaith COVID ar weithwyr iechyd y GIG a gweithwyr iechyd eraill..

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Effeithiau tymor hir a thymor byr triniaethau gofal o safon i bobl â chanser

Cyffuriau sy’n rhyddhau imiwnedd canser yw atalwyr rheolfeydd imiwnedd (ICPI). Mae ICPI yn achosi ymosodiad imiwn ar organau arferol, gan arwain at ddigwyddiadau niweidiol cysylltiedig ag imiwnedd (IrAE), gan gynnwys llid y coluddyn o’r enw colitis cysylltiedig ag imiwnedd (IR-colitis). Byddwn ni’n disgrifio nodweddion clinigol a phatholegol IR-colitis, gan archwilio rôl i feirysau, yn cynnwys feirws Epstein Barr (EBV) sy’n byw yn ddiniwed yn y mwyafrif o bobl. Yn fwy eang, bydd yr astudiaeth yn archwilio nodweddion clinigol, patholegol a microbiolegol sy’n gysylltiedig â thriniaeth ICPI, rheoli canser ac IrAE.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Cronfa Ddata Genedlaethol Delweddu’r Frest COVID-19 (NCCID) f1.0

Nod NCCID yw sefydlu cronfa ddata ymchwil genedlaethol ar gyfer pob un o Ymddiriedolaethau GIG y DU i ddarparu pelydr-X a delweddau CT o’r frest a data clinigol cysylltiedig cleifion yr amheuir bod ganddyn nhw haint Covid-19.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


PACE

Prif nodau’r astudiaeth hon yw cofnodi nifer y cleifion hyn sydd wedi cael COVID-19 o’r blaen, sydd â’r haint ar y pryd neu sy’n mynd ymlaen i ddatblygu COVID19 tra’u bod yn derbyn triniaeth ar gyfer eu Lewcemia Myeloid Acíwt (AML).

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Darpar astudiaeth anymyriadol i werthuso rôl yr adwaith imiwn a llidiol i’r rheini sy’n derbyn trawsblaniad bôn-gelloedd gwaedfagol alogenëig (SCT) y mae haint COVID19 wedi effeithio’n ddifrifol arnyn nhw

Nod yr astudiaeth bresennol yw astudio adwaith imiwn/ llidiol cleifion sydd, yn ôl pob golwg, â chlefyd difrifol cysylltiedig â COVID19 ar ôl derbyn trawsblaniad bôn-gelloedd. 

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Coagulopathi cysylltiedig â Covid 19 (CA-Covid19) Astudiaeth arsylwadol amlganolfan

Yn yr astudiaeth ddarpar/ ôl-weithredol: amlganolfan hon, byddwn ni’n dogfennu nodweddion y claf sydd â pharamedrau hematolegol a chydafiacheddau cysylltiedig a’u cysylltiad â gwaedu, thrombosis a marwolaeth mewn cleifion sy’n dod i mewn i’r ysbyty i’w trin. Bydd pennu gwerth daroganol nodweddion cleifion a chyflwyno mesuriadau labordy ar gyfer deilliannau clinigol yn y cleifion hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y cleifion hyn yn cael eu rheoli cystal â phosibl yn y dyfodol.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Nodweddu’r adwaith imiwn mewn COVID-19

Bydd yr ymchwil hon yn edrych ar adwaith y system imiwnedd mewn amrywiaeth o gleifion COVID-19 sydd yn yr ysbyty ac mewn samplau biobanciau gan ddefnyddio dadansoddiad datblygedig iawn o waed nad yw fel rheol ar gael mewn amgylcheddau ysbyty. Rydyn ni’n gobeithio nodi patrymau adwaith imiwn mewn pobl â COVID-19 yn ystod cyfnodau gwahanol / difrifoldeb amrywiol y salwch.

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


COVID-19, cyflogaeth ac iechyd yng Nghymru

Nod yr astudiaeth hon yw mesur:
(1) Cyffredinolrwydd sylfaenol cyflogaeth ansicr yng Nghymru;
(2) Effaith cyflogaeth ansicr ar iechyd a llesiant unigolion ac aelwydydd;
(3) Effaith COVID-19 ar sicrwydd cyflogaeth;
(4) Effaith newidiadau mewn cyflogaeth ar iechyd a llesiant unigolion ac aelwydydd;
(5) Canfyddiadau’r cyhoedd o waith teg.

Ar gau ynIechyd Cyhoeddus Cymru


Astudiaeth COPE: COVID-19 mewn Pobl Hŷn

Nod yr astudiaeth yw asesu eiddilwch a chlefydau sy’n digwydd ar yr un pryd mewn cleifion hŷn sy’n dod i mewn i’r ysbyty â diagnosis o COVID-19. Hefyd cyfatebu eiddilwch â deilliannau tymor byr a thymor hir.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Rapid-19: Diagnosteg cyflym, profion gwrthgyrff ac adwaith cynhalwyr mewn plant â COVID-19

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Gweithio gyda Sglerosis Ymledol (MS) yn ystod COVID-19

Goblygiadau cyflogi pobl â Sglerosis Ymledol ar ôl COVID-19

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Monitro’n weithredol Astudiaeth o Ddiogelwch Brechlyn COVID-19

Gwyliadwriaeth weithredol ar ôl awdurdodi o Ddiogelwch Brechlyn COVID-19 AstraZeneca (AZD-1222) yn y DU: Astudiaeth consortiwm.

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Almitrine bismesylate yn COVID-19

I benderfynu a all rhoi almitrine bismesylate leddfu hypoxaemia yn COVID-19 a chynyddu effeithiolrwydd therapi ocsigen atodol a chymorth anadlol

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Marcwyr Gwaed ar gyfer Adnabod ac Ymchwilio i Haint COVID19 a Sepsis mewn Plant (pSeP)

Nod yr astudiaeth yw cynnal ymchwil mewn plant dan 18 oed a dderbynnir i uned gofal dwys.

Defnyddio dull systemau ar gyfer mapio ymatebion imiwnyddol a metabolig y corff i COVID-19 neu anhwylderau cysylltiedig a’u cymharu ag anhwylderau eraill tebyg i sepsis.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Profiadau Gwyliedyddion o drais a cham-drin domestig yn ystod COVID-19

Astudiaeth Dulliau Cymysg o Brofiad Gwyliedyddion o Drais Domestig yn ystod Pandemig COVID-19.

Ar gau ynIechyd Cyhoeddus Cymru


CABINS

Arolwg o Fewnwelediadau Ymddygiadol Ymlyniad wrth Hunanynysu y rhai â chyswllt â COVID-19 (CABINS)

Ar gau yn: Iechyd Cyhoeddus Cymru


Astudiaeth CoolBonding

Effaith cyfyngiadau ymweld COVID-19 ar sefydlu cwlwm agosrwydd, ymlyniad, ac iechyd meddwl rhieni babanod wedi eu hoeri ar gyfer enseffalopathi hypocsig-isgemig: astudiaeth garfan aml-ganolfan arfaethedig.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


CoPE-HCP: COVID19 a llesiant Corfforol ac Emosiynol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Effaith uniongyrchol a thymor canol COVID-19 ar iechyd corfforol, ymddygiadol a meddyliol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol: Astudiaeth garfan o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


COVID SALES

Asesiad radiolegol o apigau’r ysgyfaint ar gyfer annormaleddau sy’n gyson â haint Sars-Co-2 mewn astudiaethau CT o strôc acíwt.

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Astudiaeth DREAM COVID-19

Astudiaeth Mesur Gwrthgyrff smotyn gwaed sych (DREAM) Covid-19

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


COVID-19: Dysgu gwersi o'r ymateb a arweinir gan y gymuned yng Nghymru

Cynnal camau gweithredu a arweinir gan y gymuned mewn adferiad: dysgu gwersi o’r ymateb cymunedol i COVID-19 yng Nghymru.

Ar gau ynIechyd Cyhoeddus Cymru


COVIDCLOT (Thrombogenedd mewn Gwaethygiad Acíwt Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD)

Dadansoddi microstrwythurol clot ffibrin yn COVID-19; ei effaith ar ganlyniad clinigol a’r ymateb i therapi decsamethason.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


COVIDTrach; Astudiaeth garfan y DU o draceostomi mewn cleifion COVID-19

Bwriad COVIDTrach yw asesu canlyniadau traceostomi mewn cleifion COVID-19 sy’n cael cymorth anadlu mecanyddol. Cofnodir hefyd y defnydd o gyfarpar diogelu personol ac achosion o COVID-19 ymhlith gweithredwyr.

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


COVIP: COVID-19 mewn cleifion gofal dwys hen iawn

Cwrs clinigol a ffactorau prognostig haint COVID-19 mewn cleifion gofal dwys hen iawn - Astudiaeth sy'n cael ei chynnal yn y DU yn rhan o astudiaeth aml-ganolfan, ryngwladol, arsylwadol o'r un enw.

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Penderfynu ar Risg Covid-19 ar ôl bod yn bresennol mewn apwyntiadau ysbyty

Penderfynu ynghylch y Risg o Ddatblygu Haint COVID-19 Symptomatig ar ôl bod yn bresennol mewn apwyntiadau Clinig Cleifion Allanol mewn Ysbytai. 

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Profiadau y cyfnod cynnar o fod yn rhiant yn ystod Pandemig y Coronafeirws a thu hwnt

Heriau bod yn rhiant yn ystod pandemig/achosion y Coronafeirws a thu hwnt: Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol: Sut y gallwn Ddeall ac Ymdrin â'r profiad hwn i Wella'r Ddarpariaeth o Wasanaethau a Llesiant Meddyliol Mamau, Babanod a Theuluoedd?

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Is-set o astudiaeth bediatrig GCS-NeuroCOVID

Astudiaeth Consortiwm Byd-eang o Gamweithrediad Niwrolegol yn COVID-19 - is-set o astudiaeth bediatrig.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Hyfforddi’r Cyhyrau Anadlu (IMT) fel strategaeth adfer ôl-COVID-19

Mewnanadlu yn y dyfodol: Defnyddio hyfforddi’r cyhyrau anadlu yn rhan o adsefydlu ôl-COVID-19.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Chwistrell Iota-Carrageenan ar gyfer proffylacsis COVID-19

Effeithiolrwydd proffylacsis chwistrell Iota-Carrageenan ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n trin cleifion COVID-19 – Hap-dreial dwbl-ddall a reolir gan blasebo.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


METRABONA

Dulliau gweithredu metabolig o ddiddymu storm cytocinau yn COVID-19.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


MOMA_V1.0

Mesur gweithgarwch gwrthfeirysol cegolchion yn erbyn COVID-19.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


OnCovid

ONCOVID: hanes naturiol a chanlyniadau cleifion canser yn ystod epidemig COVID19.

Ar agor yn: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


PECovid

Archwilio profiadau pobl â seicosis yn ystod pandemig Covid-19. 

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Darparu gofal iechyd meddwl cleifion mewnol yn y GIG yn ystod Covid-19

Darparu gofal iechyd meddwl cleifion mewnol yn y GIG yn ystod Covid-19:Dadansoddiad trafodaeth Foucalt. 

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Effaith Seicolegol COVID-19

Effaith seicolegol pandemig COVID-19 a’r profiad: Arolwg rhyngwladol.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Effaith Seicolegol COVID-19

Effaith seicolegol goroesi cyfnod o ofal dwys oherwydd clefyd coronafeirws 2019 (COVID-19) ar gleifion yn y Deyrnas Unedig.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


REGAIN

Ymarfer Adsefydlu a chymorth seicolegol ar ôl haint COVID-19 (REGAIN): hap-dreial aml-ganolfan a reolir. 

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


TERAVOLT – Cydweithrediad rhyngwladol COVID-19 ar gyfer canser thorasig

Cofrestrfa ryngwladol o gleifion canser thorasig gyda COVID-19. 

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


Prosiect Cydnerthedd COVID-19

Astudio effaith COVID-19 ar weithlu'r GIG i arwain y ddarpariaeth o gymorth a lywir gan drawma a seicoleg.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru

Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru; y ddarpariaeth o ofal llygaid cymunedol yn ystod cyfyngiadau COVID19.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Deall y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn o fewn staff GIG Cymru

Mae'r prosiect hwn yn ceisio archwilio'r rhwystrau a'r hwyluswyr o ran staff y GIG sy'n cael brechiadau. 

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Arolwg Llesiant Covid-19 Cymru

Edrych ar lefelau llesiant a thrallod seicolegol ym mhoblogaeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


'Cerdded yn eu Hesgidiau' - Datblygu Ymyrraeth Addysg

'Cerdded yn eu Hesgidiau' – Datblygu Ymyrraeth Addysg ar Empathi.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


AspiFLu

Astudiaeth sy’n asesu digwyddedd a phathogenesis Asbergilosis Ymledol mewn Cleifion Gofal Dwys â Ffliw Difrifol (AspiFLu).

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Straeon o’r “maes”

Straeon o’r “maes”: Ymchwiliad naratif yn edrych ar effaith model gofal rhagnodi cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19. Fersiwn 1.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg