Astudiaethau wedi’u cwblhau

Astudiaeth therapiwtig amlgangen mewn cleifion yn yr ysbyty â COVID-19 cyn iddyn nhw fynd i Uned Gofal Dwys – Cyffuriau Wedi’u Haddasu (TACTIC-R)

Mae pandemig COVID-19 yn achosi nifer sylweddol o farwolaethau yn y DU yn unig, oherwydd y cymhlethdodau sy’n gallu codi mewn cleifion hŷn a’r rheini â chydafiacheddau. Mae TACTIC yn recriwtio cleifion yn gynnar yng nghwrs y clefyd, gan anelu at bwynt mewn amser pan mae gan y claf symptomau o’r haint ac mae’n dechrau dangos cymhlethdodau’r ysgyfaint. Y diben yw atal niwed i organau a lleihau’r angen i drosglwyddo cleifion i’r Uned Gofal Dwys a pheiriant anadlu. Nod y treial hwn yw lleihau nifer y cleifion COVID-19 fydd yn gorfod mynd i mewn i Uned Gofal Dwys. 

Wedi’u cwblhau: BwrddIechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


BREATHE: Gwerthusiad Derbynnydd Celloedd B ar gyfer Gwrthgyrff i Amddiffyn Cysylltiad Dynol â SARS-COV-2

Nod PROSIECT BREATHE yw dod â chynghrair o gwmnïau, academyddion, y GIG a’r sector cyhoeddus o’r DU a rhai rhyngwladol at ei gilydd i gynhyrchu niferoedd mawr o ddosau o wrthgyrff therapiwtig yn erbyn COVID19. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae angen i ni gael samplau oddi wrth gleifion ag amrywiaeth o adweithiau i haint feirol.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


ATOMIC2

Mae astudiaeth ATOMIC2 yn ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai gwrthfiotig cyffredin o’r enw Azithromycin (AZM) atal cleifion rhag gwaethygu.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


PECC-19

Profiadau Parafeddygon o Ddarparu Gofal yn ystod Pandemig COVID-19 2020 (PECC-19): Astudiaeth ansoddol yn defnyddio Theori Seiliedig ar Ddata

Wedi’u cwblhau: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


Nodweddu ymateb imiwnedd i SARSCoV2 mewn diabetes Math 1

Nod y prosiect hwn yw deall ymateb imiwnedd y lletywr i haint SARS-CoV-2 dros amser mewn cleifion ymadfer sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes Math 1.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Deall iechyd meddwl staff y GIG yn ystod COVID-19

Deall profiadau pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl staff, nodweddion y gweithle a chydnerthedd y GIG: Safbwynt hydredol. 

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


YMCHWILIAD AMLSAFLE I DDYFAIS CTEX WG5 (COVID-19 CPAP)

Nod yr astudiaeth hon yw treialu’r defnydd o ddyfais newydd pwysedd positif parhaus ar y llwybr anadlu (CPAP), o’r enw CTEX-WG5, ar gleifion COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Nodweddu’r adwaith imiwn mewn COVID-19

Bydd yr ymchwil hon yn edrych ar adwaith y system imiwnedd mewn amrywiaeth o gleifion COVID-19 sydd yn yr ysbyty ac mewn samplau biobanciau gan ddefnyddio dadansoddiad datblygedig iawn o waed nad yw fel rheol ar gael mewn amgylcheddau ysbyty. Rydyn ni’n gobeithio nodi patrymau adwaith imiwn mewn pobl â COVID-19 yn ystod cyfnodau gwahanol / difrifoldeb amrywiol y salwch.

Wedi’u cwblhauBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Dadansoddiad spectometreg más o metabolau yn y gwaed o gleifion Covid-19

Astudiaeth glinigol a labordy archwiliadol: dadansoddiad meintiol o fetabolion mewn samplau clinigol o gleifion Covid-19.

Wedi’u cwblhauBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Hap-astudiaeth dwbl-ddall amlganolfan, wedi’i reoli, yn defnyddio plasebo fel cymharydd, Cyfnod 3 i asesu effeithlonrwydd a diogelwch canakinumab ar syndrom rhyddhau cytocin mewn cleifion â niwmonia y mae COVID-19 wedi’i achosi (CAN-COVID)

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


STOP-COVID19

Nod y treial clinigol hwn ydy gwerthuso potensial Brensocatib (INS1007) fel therapi newydd sy’n targedu celloedd cynhalwyr i drin oedolion sy’n gleifion yn yr ysbyty â COVID-19.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


CARA study

This study will recruit UK ambulance staff to complete a short online questionnaire assessing their current perceived preparedness and wellbeing during the current accelerative phase of COVID-19 outbreak

Wedi’u cwblhau: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


Astudiaeth COVID-19 a Straen

Nod ein hastudiaeth yw (i) deall graddau a natur y niwed seicolegol yn sgil y pandemig; (ii) archwilio’r potensial i hyn droi yn niwed corfforol; a (iii) cael tystiolaeth i ddarparu sail ar gyfer sut y gellir lliniaru’r niweidiau hyn.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Nyrs-Covid: arolwg staff fersiwn 1

Nyrs-Covid: arolwg staff o ddiwallu anghenion gofal nyrsio sylfaenol cleifion SARS-CoV-2.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Astudiaeth CovidOvPsych

Astudiaeth dulliau cymysg hydredol o effaith seicolegol argyfwng COVID-19 ar fenywod sy’n cael triniaeth am ganser yr ofari. 

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


CovPall: gofal lliniarol i’r rheini â COVID-19 (f1.0)

Nod yr ymchwil hon yw gwerthuso’n gyflym ymateb gofal lliniarol i COVID-19, i wella gofal nawr ac yn y dyfodol.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Protocol Triniaeth Mynediad Estynedig: Remdesivir (RDV; GS-5734) ar gyfer Trin Haint SARS-CoV2 (CoV)

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


PROTECT-ASUC

Ymateb Pandemig COVID-19 o asesiad, endosgopi a thriniaeth mewn Colitis Wlserol Difrifol Acíwt. Astudiaeth rheoli achosion arsylwadol aml-ganolfan.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Astudiaeth COMPARE

Effaith COVID-19 ar ddadebru ataliad y galon y tu allan i ysbyty a arweinir gan y Gwasanaeth Meddygol Brys. Astudiaeth Ansoddol.

Wedi’u cwblhau: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


UNITE-COVID

Prosiect COVID-19 CYMDEITHAS MEDDYGAETH GOFAL DWYS EWROP

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


ACCORD-2-003

ACCORD 2: Hap-astudiaeth Platfform Addasedig Amlganolfan, Ddi-dor, Cyfnod 2 i Asesu Effeithlonrwydd a Diogelwch Nifer o Gyfryngau Ymgeisiol i Drin COVID-19 mewn Cleifion yn yr Ysbyty.

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan