Man in a mask looking out of window

Cyllid ar gyfer ymchwil COVID-19

Ers dechrau’r pandemig, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio i gefnogi ymateb ymchwil cydgysylltiedig y DU i COVID-19. O ran ariannu ymchwil, rydyn ni wedi mynd ati i gefnogi a hybu’r galwadau cyllid COVID-19 a ganlyn ledled y DU:

•    Galwad dreigl ymateb cyflym NIHR/ UKRI (gan gynnwys hysbysiadau uchafbwynt yn ymwneud â serogyffredinrwydd a throsglwyddiad, iechyd meddwl a materion BAME);
•    Galwad dreigl traws-gyngor UKRI;
•    Galwad adfer a dysgu NIHR;
•    Galwad unigolion â COVID hir na fuon nhw yn yr ysbyty, NIHR/ UKRI.

Mae pob ymchwilydd yng Nghymru a fu ar ofyn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am gyllid ar gyfer ymchwil COVID-19 wedi’u cyfeirio at y galwadau hyn, pob un ohonyn nhw wedi cau erbyn hyn. 
Nid yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi rhedeg ei gynllun ariannu COVID-19 ei hun. Rydyn ni wedi bod o’r farn bod cymryd rhan mewn gweithgarwch ar lefel y DU wedi cynnig gwell cydlyniad a throsolwg ar bortffolios, wedi defnyddio prosesau cyflawni cyflym a sefydlwyd yn ddi-oed yn effeithiol, wedi osgoi'r posibilrwydd o ddyblygu ymchwil ac wedi helpu i sicrhau bod yr astudiaethau COVID-19 pwysicaf mwyaf brys, o’r ansawdd gorau wedi’u hariannu.
Fodd bynnag, roedd ein galwadau ariannu safonol (Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd, Grantiau Ymchwil Iechyd a Chymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cyhoeddus) yn cynnwys briff a oedd yn blaenoriaethu ymchwil gysylltiedig â COVID, a oedd yn nodi ein bod yn croesawu’n benodol ceisiadau a oedd yn rhoi sylw i:
 
•    effaith COVID-19 ar ddarpariaeth gwasanaeth iechyd a gofal heblaw am rai COVID;
•    yr hyn sydd wedi’i ddysgu o'r pandemig COVID-19 y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau eraill neu ar gyfer trefnu a chyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heblaw am rai COVID.

Mae ceisiadau llawn ar gyfer syniadau a gyflwynwyd mewn ymateb i’r galwadau hyn nawr yn cael eu prosesu, a daw canlyniadau ynglŷn ag ariannu’r rhain yn hysbys ym mis Mai a mis Mehefin.

Mae’r NIHR yn parhau i gynnig cyfleoedd ariannu COVID-19 trwy ei raglenni ymchwil rheolaidd. O’r rhain, mae’r canlynol ar gael fel mater o drefn i ymchwilwyr yng Nghymru:

•    Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus
•    Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflenwi Iechyd
•    Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd
•    Rhaglen Gwerthuso Effeithlonrwydd a Mecanwaith

Mae’n bosibl bod cyfleoedd hefyd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru trwy’r Rhaglen Ymchwil Iechyd Byd-eang a Rhaglen Cymrodoriaethau’r NIHR.

Cynghorir ymchwilwyr sydd â diddordeb i wirio manylion pob rhaglen cyn gwblhau eu cais.

Yn achos cyfleoedd ariannu y mae’r Cynghorau Ymchwil yn eu cynnig trwy UKRI, cynghorir ymchwilwyr i fynd i wefan UKRI: https://www.ukri.org/opportunity/get-funding-for-ideas-that-address-covid-19/

Bydd gwybodaeth am gyfleoedd y mae Ymchwil iechyd a Gofal Cymru’n uniongyrchol ymwybodol ohonyn nhw hefyd yn cael ei gosod ar y dudalen hon cyn gynted ag y byddan nhw’n dod i’r