Dathlu ymchwil o bob rhan o'r Deyrnas Unedig
22 Mai
Daeth dros 850 o gydweithwyr ymchwil a datblygu o bob rhan o'r DU at ei gilydd yng Nghymru yr wythnos hon yn Fforwm Ymchwil a Datblygu 2024.
Roedd y Fforwm yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ar draws y DU a'r ffyrdd y mae timau'n hyrwyddo ymarfer ymchwil. Roedd y gynhadledd dros gyfnod o dri diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan y gymuned broffesiynol ledled y DU ym maes rheoli, cefnogi ac arwain ymchwil ym maes iechyd a gofal.
Gwnaeth Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru groesawu y rhai a oedd yn bresennol a chyflwynodd sesiwn lawn agoriadol y gynhadledd, "Cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ymchwil" lle clywsom gan Felicity Waters, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys Cenedlaethol mewn sgwrs â Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke. Fe wnaethon nhw drafod pwysigrwydd cyfathrebu, ymddiriedaeth y cyhoedd a gwireddu ymchwil a gwyddoniaeth.
"Y straeon dwi'n mwynhau eu gwneud yw'r rhai sy'n rhannu gobaith a chyfleoedd... sydd i'w gael mewn ymchwil," meddai Owain Clarke.
Mae'r Fforwm yn ymwneud â chysylltu â chydweithwyr sy'n gwneud swyddi tebyg ledled y wlad a thrafod sut y gallant gydweithio a gwneud cysylltiadau ystyrlon. Roedd y digwyddiad yn cynnwys llawer o sesiynau trafod llai gan gynnwys un ar Swyddfeydd Ymchwil ar y Cyd, gyda'r Athro Colin Dayan, Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dywedodd: "Mae'n wych iawn bod y Fforwm Ymchwil a Datblygu yng Nghymru eleni, i ni gael cyfle i gyflwyno sut rydyn ni'n gwneud pethau yng Nghymru. Rwy'n credu bod llawer iawn o draws-ddysgu yn digwydd."
Cadeiriwyd yr ail sesiwn lawn "Cryfhau’r Berthynas â'r Diwydiant Fferylliaeth" gan yr Arglwydd James O'Shaughnessy, a arweiniodd adolygiad o dreialon clinigol masnachol yn y DU yn ddiweddar. Diolchodd i'r cynrychiolwyr am eu cyfraniadau i'r adolygiad ac arweiniodd drafodaeth banel ar safbwyntiau cyfunol yr hyn sydd angen canolbwyntio arno ar hyn o bryd mewn ymchwil.
Dywedodd Oliver Buckley-Mellor, Rheolwr Polisi Ymchwil Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) a oedd ar y panel:
"Mae'n wych bod yn y Fforwm eleni, gyda phawb yn rhannu eu profiadau a'u harbenigedd ... a gweithio i sicrhau bod ymchwil o fudd i bawb yng Nghymru a thu hwnt."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cadeirydd Fforwm Ymchwil a Datblygu presennol Grŵp Cynnwys y Rhaglen:
"Mae'n wych bod yng Nghymru, i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, mae’n ddefnyddiol iawn i gysylltu â'n cydweithwyr ledled y DU."
Bydd Fforwm Ymchwil a Datblygu 2025 yn cael ei gynnal ym Manceinion, os na allwch aros mor hir â hynny i gysylltu â chydweithwyr, cofrestrwch i ymuno â ni ar-lein neu wyneb yn wyneb yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, 10 Hydref 2024.