Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag ymchwil anhygoel sy’n cefnogi iechyd menywod
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym yn ymchwilio'n ddyfnach i rai o'r ymchwil anhygoel sy'n digwydd ledled Cymru sy’n cefnogi lles a bywydau menywod a merched.
Mae ymchwilwyr ymroddedig a chyfranogwyr ysbrydoledig yn gweithio'n galed i ddatblygu triniaethau gwell i fynd i'r afael â rhai o'r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf sy'n wynebu menywod.
Gadewch i ni edrych ar rai o'r astudiaethau sy'n hyrwyddo iechyd a gofal menywod yng Nghymru:
Cefnogi pobl sydd â Llid y Cymalau Llidiol wneud cynllunio teulu gwybodus
Mae Zoë Abbott yn ceisio deall sut mae unigolion o oedran magu plant sy'n byw gyda Llid y Cymalau Llidiol yn gwneud penderfyniadau gwybodus am gynllunio teulu.
Mae ymchwilwyr o Gymru yn gweithio i ddeall sut y gellir gwella diagnosis cynnar a chefnogaeth amserol i ferched a menywod sy'n byw ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, mewn ymgais i sicrhau chwarae teg o ran y cymorth a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr anhwylder.
Gallai model 3D arloesol yr ysgyfaint fod yn allweddol o ran lledaeniad canser y fron
Mae Dr Naledi Formosa yn defnyddio model tri dimensiwn arloesol o'r ysgyfaint i fonitro rhyngweithiadau cymhleth celloedd yr ysgyfaint ac astudio lledaeniad canser y fron.
Gwrthfiotigau neu sudd llugaeron i drin heintiau'r llwybr wrinol rheolaidd?
Mae astudiaeth yn cefnogi menywod sydd â heintiau'r llwybr wrinol rheolaidd i ddysgu manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau triniaeth fel gwrthfiotigau a sudd llugaeron i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus i reoli eu cyflwr.
Ymchwil endometriosis "yw’r allwedd i wneud cynnydd ar gyfer cleifion".
Mae Rachel Joseph yn ymchwilio i wella ansawdd bywyd menywod sy'n byw ag endometriosis a gwella adnabod symptomau a chyflymu diagnosis.
Gwell dealltwriaeth o seicosis ôl-enedigol
Mae ymchwilwyr yn gweithio i ddeall mwy am achosion seicosis ôl-enedigol mewn menywod, a datblygu gwasanaethau cymorth gwell i hyrwyddo iechyd meddwl ôl-enedigol i famau.
I gadw i fyny â'r diweddaraf mewn ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.