Yr Athro Donald Forrester
Uwch Arweinydd Ymchwil
Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ariannu Ymchwil: Grant Gofal Cymdeithasol
Teitl y prosiect: Understanding the Subjective Well-Being of Younger Children Looked After in Wales: A Qualitative Study Designed with Children in Care Using Creative Methodologies
Mae gwaith ymchwil yr Athro Forrester mewn gwasanaethau ar gyfer plant sy’n agored i niwed yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng ymarferion proffesiynol a chanlyniadau i blant a’u teuluoedd. Mae wedi arwain astudiaethau ac adolygiadau a rhaglenni ymchwil gan ddefnyddio ystod eang o fethodolegau meintiol ac ansoddol. Mae ei ddiddordebau ymchwil arbennig yn cynnwys addasu methodolegau i ymchwilio i sefyllfaoedd cymhleth, arsylwi a deall ymarfer uniongyrchol a gwerthuso mentrau i wella ymarfer.
Ers 2016 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr CASCADE, sef un o brif ganolfannau ymchwil i ofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae hefyd yn gartref i ExChange, rhwydwaith ymgysylltu ymchwil gofal cymdeithasol Cymru gyfan.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd hanfodol yng Nghymru (Hydref 2022)