Peter Hooper

Taith goroeswr strôc i helpu i wella gofal ac atal strôc

4 Mawrth

Mae dyn o Sir y Fflint, y newidiodd ei fywyd yn ddramatig ar ôl iddo ddioddef strôc, yn helpu i lunio prosiect ymchwil newydd gyda'r nod o wella gofal ôl-strôc ac atal.

Roedd Peter Hooper, 64, wedi bod yn weithgar ac yn ffit nes iddo ddioddef y strôc ar fore Sul ym mis Mehefin 2020 gartref yn Swydd Gaer. Dywedodd Peter:  "Roedd y strôc wedi dod mas o nunlle, gan fy mod yn rhedeg, nofio a beicio'n rheolaidd.

"Roeddwn i'n hynod lwcus bod fy ngwraig wedi sylweddoli'n gyflym fy mod i'n cael strôc.  Ces i fy nhywys yn syth i ganolfan strôc fawr a chefais thrombectomi, lle gwnaethon nhw dynnu ceulad gwaed o'm gwythïen o fewn ychydig oriau i'r strôc.  Ro'n i nôl ar fy nhraed ac yn cerdded allan o'r ysbyty'r diwrnod canlynol." 

Daeth Peter yn gyfrannwr cyhoeddus i helpu i wella gofal strôc mewn astudiaeth dan arweiniad Dr Jonathan Hewitt, Arweinydd Arbenigol ar gyfer Strôc yng Nghymru yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac aelod o'r Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae'r astudiaeth, Gwerthusiad o Risg, Bregusrwydd a Chanlyniadau ar ôl Strôc (astudiaeth ERFOS), yn defnyddio'r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a ariennir hefyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ei nod yw datblygu cynlluniau triniaeth, er mwyn sicrhau bod goroeswyr strôc ar y driniaeth gywir, ar y dos cywir i helpu i atal strôc bellach a gwella gofal. 

Er bod Peter wedi gwella'n llawer cyflymach na'r disgwyl, profodd effaith seicolegol ac emosiynol y strôc ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

"Nid tan dri neu bedwar mis yn ddiweddarach y dechreuodd effaith y strôc mewn gwirionedd.  Roedd problemau canolbwyntio a blinder yn gwneud dychwelyd i'r gwaith yn anodd, felly fe wnes i ymddeol yn gynnar a symud o Swydd Gaer i Ogledd Cymru." 

Cyn ei strôc, roedd Peter wedi gweithio mewn prifysgolion mewn amrywiaeth o rolau cymorth ymchwil.  Buan y sylweddolodd ar ôl strôc bod nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil strôc drwy'r Gymdeithas Strôc ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Ers hynny, mae Peter wedi cymryd rhan weithredol mewn astudiaethau sy'n canolbwyntio ar atal strôc, gofal acíwt, adsefydlu ac iechyd meddwl. 

Dywedodd: "Gyda fy nghefndir mewn gwaith a'm profiad o strôc, rwy'n teimlo bod gen i rywbeth defnyddiol i gyfrannu at astudiaethau. Fe wnes i gymryd rhan mewn ychydig o brosiectau ymchwil strôc fel aelod cyhoeddus neu glaf o grwpiau cynghori, gan gefnogi'r ymchwilwyr." 

Mae goroeswyr strôc mewn mwy o berygl o gael strôc arall. Dywedodd Dr Hewitt Bydd un o bob pedwar yn profi ail strôc o fewn pum mlynedd

Nododd Dr Hewitt nad yw'r canllawiau presennol yn darparu argymhellion penodol ar gyfer unigolion bregus.  Dywedodd: "Mae pobl hŷn, fregus yn debygol o fod â chyflyrau lluosog. Gall hyn arwain at or-driniaeth, pan fo dull mwy cyfannol, unigol weithiau'n well i'r person hwnnw.

Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn ddefnyddiol ar gyfer creu gwell cynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion strôc a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Bydd hefyd yn ein helpu i arwain ymchwil i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ofalu am gleifion er mwyn atal strôc bellach." 

Mae'r prosiect yn cael ei gynnal fel cydweithrediad o fewn y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol a rhwng Canolfan Ymchwil Cardiofasgwlaidd, Arloesi a Datblygu Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.