Yr Athro Ian Jones
Cyfarwyddwr ac Uwch Arweinydd Ymchwil
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Ysgoloriaeth PhD Iechyd (Hydref 2018-Medi 2021)
Teitl y prosiect: Making the invisible visible: Using lived experiences of severe mental illness around childbirth to co-produce tools for individualised pregnancy planning
Mae Ian yn Athro Seiciatreg yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro. Mae’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH.info) a chyda’i gydweithwyr mae’n arwain y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol (BDRN.org).
Ef yw arweinydd clinigol Gwasanaeth Seiciatreg Prifysgol Caerdydd (CUPS), sy’n cynnig ail farn ar anhwylderau hwyliau a seicotig ac yn arwain gwasanaeth clinigol sy’n cynnig cwnsela cyn-feichiogi i fenywod â salwch meddwl difrifol. Mae’n gyfarwyddwr Rhaglen Addysg Deubegynol - Cymru, rhaglen seicoaddysg grŵp ar gyfer anhwylder deubegynol a gafodd wobr yn 2014 gan y British Medical Journal am arloesedd ym maes meddygaeth. Mae Ian yn Ymddiriedolwr, yn gyn Gadeirydd ac yn Gynghorydd Gwyddonol Action on Postpartum Psychosis ac yn Ymddiriedolwr y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol. Mae wedi ysgrifennu neu gyd-ysgrifennu mwy na 300 o gyhoeddiadau a phenodau ar gyfer llyfrau. Derbyniodd Fedal Marcé am ei ymchwil ar seicosis ôl-enedigol ac enillodd wobr Seiciatrydd Academaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Coleg Brenhinol o Seiciatryddion.
Yn y newyddion:
Astudiaeth newydd â’r nod o gynyddu dealltwriaeth o seicosis ôl-enedigol (Ebrill 2023)
Yr ymchwilydd Cymreig y tu ôl i stori seicosis ôl-enedigol EastEnders (Chwefror 2023)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Mae ymchwil yng Nghymru’n gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru (Chwefror 2022)
NMCH yn ennill am ei gwaith ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil (Hydref 2018)