
Yr Athro Andrew Carson-Stevens
Arweinydd Arbenigol ar Ofal Sylfaenol a Uwch Arweinwyr Ymchwil
Mae'r Athro Andrew Carson-Stevens yn Feddyg Teulu yn Ne Cymru, yn Uwch Arweinydd Ymchwil gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru), canolfan ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gweithio ar y cyd ar draws pedair prifysgol yng Nghymru.
Fel Arweinydd Arbenigeddau Gofal Sylfaenol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae'r Athro Carson-Stevens yn gweithio i gefnogi a meithrin capasiti a gallu ymhlith y gweithlu gofal sylfaenol i ddarparu cyfleoedd i gleifion a'r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil a threialon clinigol mewn lleoliadau cymunedol.
Mae'r Athro Carson-Stevens yn Athro Clinigol Diogelwch Cleifion a Chyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dysgu a Gwella Diogelwch Cleifion yn Is-adran Feddygaeth y Boblogaeth, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Athro Carson-Stevens yn ymgynnull y Grŵp Ymchwil Diogelwch Cleifion (y 'grŵp PISA') gydag arbenigedd sy'n ymchwilio i natur a baich niwed y gellir ei osgoi mewn gofal iechyd (gan gynnwys mewn carchardai), gan gynnwys datblygiadau methodolegol i fesur canlyniadau diogelwch ar draws cyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ei brosiectau diweddaraf a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn canolbwyntio ar oedi trosglwyddo mewn Adrannau Brys a diogelwch gofal yn y cartref.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Cymru i chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth gwrthfeiral i driniaethau newydd ar gyfer COFID-19 dros y DU gyfan (Rhagfyr 2021)
Mae cyfranogwyr ymchwil Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddangos diogelwch brechlynnau COVID-19 a ffliw ar yr un pryd (Hydref 2021)
Mae’n hen bryd gwella gofal llygaid brys (Mehefin 2019)
‘Chwalwr codau’ Cymru’n gwneud ein hymweliadau â’r meddyg teulu’n fwy diogel (Rhagfyr 2018)
Ymyriadau y mae nyrsys yn eu harwain i leihau effaith adweithiau gyffuriau ar gyfer oedolion hŷn mewn cartrefi gofal (Mehefin 2018)