Yr Athro Sinead Brophy
Uwch Arweinydd Ymchwil
Sinead yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, ac mae’n Athro Ymchwil Data Iechyd y DU (Cymru/Gogledd Iwerddon) ac Arweinydd y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Meddygaeth Poblogaeth a Systemau y Cyngor Ymchwil Feddygol a Phwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Annibynnol Awdurdod Rheoleiddiol Meddyginiaethau a chynnyrch Gofal Iechyd.
Sinead yw’r Arweinydd Hyfforddi yng Nghymru/Gogledd Iwerddon ar gyfer Ymchwil Data Iechyd y DU. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys gwyddor data, epidemioleg yn enwedig dull gydol oes, iechyd mam a phlentyn, cyflyrau cronig yn enwedig llid y cymalau ac iechyd yn y gweithle.
Yn y newyddion:
Hwb ariannol i bartneriaeth ymchwil iechyd mamau a babanod newydd (Mai 2023)
Share your views on the free school meals in Wales (Rhagfyr 2022)
Arolwg newydd Ganwyd yng Nghymru i rieni plant 18 mis i 2 oed a hanner (Tachwedd 2022)
Adnoddau ar-lein i gyflymu'r broses o roi diagnosis o awtistiaeth (Awst 2022)
Uwch ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at fenter o bwys (Mai 2022)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Mae ymchwil yng Nghymru’n gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc Cymru (Chwefror 2021)
Prosiect i helpu i wella iechyd, addysg a lles plant yng Nghymru wedi’i lansio (Medi 2020)
Sefydliad
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth
Cysylltwch â Sinead