Yr Athro Andrew Carson-Stevens
Arweinydd Arbenigol ar Ofal Sylfaenol
Mae Yr Athro Andrew Carson-Stevens yn feddyg teulu ac yn ymchwilydd i’r gwasanaethau iechyd, ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol am arwain ymchwil i sut y mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn dysgu o ofal anniogel a ddaw i ran cleifion a’u teuluoedd. Mae ganddo PhD mewn diogelwch cleifion ac mae wedi hyfforddi fel Cynghorydd Gwella Ansawdd yn y Sefydliad ar gyfer Gwella Gofal Iechyd (Boston, UDA). Mae ymchwil Andrew yn canolbwyntio ar sut y mae systemau gofal iechyd yn gallu achosi digwyddiadau diogelwch cleifion (camgymeriadau meddygol) ac yn gweithredu ar yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu o’r digwyddiadau hyn, yn enwedig o fewn gofal sylfaenol lle bu cryn ddiffyg yn y gwaith ymchwilio a datblygu ym maes diogelwch cleifion. Mae gan ei Grŵp Ymchwil i Ddiogelwch Cleifion (y grŵp PISA) yn Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd arbenigedd mewn:
- ymchwilio i amlder a modd osgoi niwed sylweddol mewn gofal iechyd;
- nodi meysydd blaenoriaeth o ran diogelwch cleifion wrth ddadansoddi data diogelwch cleifion ac wrth grynhoi gwybodaeth gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydliadau’r GIG a llunwyr polisi;
- arloesi methodolegol ar gyfer rhannu’r hyn a ddysgir o gamgymeriadau meddygol o fewn (cenedlaethol) a rhwng gwledydd (rhyngwladol), gan gynnwys datblygu tacsonomeg;
- datblygu dulliau dysgu peiriannol (deallusrwydd artiffisial) ar gyfer dadansoddi data diogelwch cleifion yn awtomataidd;
- datblygu a rhoi ymyriadau ar waith i wneud cyn lleied o niwed â phosibl i gleifion mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol; a
- dulliau cymysg o werthuso mentrau i wella ansawdd
Mae Andrew yn Arweinydd Ymchwil i Ddiogelwch Cleifion yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru).
O 2016 i 2017, Andrew oedd Arweinydd Clinigol ar gyfer Diogelwch Cleifion Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.
Mae’n gynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd ar ddiogelwch cleifion ac yn cyfrannu at weithgor y Sefydliad dros Gydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD) ar gyfer deilliannau diogelwch y mae cleifion wedi rhoi gwybod amdanynt.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Cymru i chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth gwrthfeiral i driniaethau newydd ar gyfer COFID-19 dros y DU gyfan (Rhagfyr 2021)
Mae cyfranogwyr ymchwil Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddangos diogelwch brechlynnau COVID-19 a ffliw ar yr un pryd (Hydref 2021)
Mae’n hen bryd gwella gofal llygaid brys (Mehefin 2019)
‘Chwalwr codau’ Cymru’n gwneud ein hymweliadau â’r meddyg teulu’n fwy diogel (Rhagfyr 2018)
Ymyriadau y mae nyrsys yn eu harwain i leihau effaith adweithiau gyffuriau ar gyfer oedolion hŷn mewn cartrefi gofal (Mehefin 2018)