cyflwyniad gwobr yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2017

Galwad olaf ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

2 Gorffennaf

Os ydych yn gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gadewch i ni ddathlu eich gwaith sy'n trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 yn dathlu blwyddyn o ragoriaeth ac effeithiau ymchwil ledled y wlad.

Dangoswch sut mae eich ymchwil yn newid bywydau trwy'r categorïau canlynol:

Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Allwch chi ddangos sut mae eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?

Gwobr Seren Ymchwil Addawol - Ydych chi yng nghamau cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol? Ydych chi'n cyfrannu'n sylweddol at eich maes?  Ydych chi'n arweinydd addawol y dyfodol?

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd - Ydych chi wedi ymwneud â'r cyhoedd yn eich ymchwil mewn ffordd ystyrlon ac arloesol?  Ydych chi'n cwrdd â safonau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?

Gwobr Arloesi mewn Ymarfer - Allwch chi ddangos sut mae unigolion neu dimau ymchwil wedi gwneud gwahaniaeth wrth ddatblygu ymchwil, cyflwyno, neu ledaenu/gweithredu?

Dyddiad cau: 5:00pm ar 15fed Gorffennaf 2024

Dewch i ddathlu eich ymrwymiad a'ch cyflawniadau gyda'n gilydd yn 2024! Cyflwynwch eich cais nawr.

Dysgwch am y pum prif reswm dros gymryd rhan yn y Gwobrau.

Darganfyddwch y naw awgrym gorau ar gyfer creu fideo gwych ar gyfer eich cais gwobr.

Gallwch hefyd gyflwyno eich crynodebau am drafodaeth dull TED yn y gynhadledd.