Yr Athro Iain Whitaker
Arweinydd Arbenigol ar Lawdriniaeth
Astudiodd Iain feddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt (Coleg Trinity Hall) a chwblhaodd is-interniaeth yn Ysgol Feddygol Harvard, ac yna derbyniodd hyfforddiant arbenigol mewn llawfeddygaeth blastig, adluniol ac esthetig yn Swydd Efrog, Cymru, Sweden, UDA, Awstralia a Ffrainc.
Cwblhaodd gymrodoriaethau microlawfeddygol sylweddol ym Melbourne trwy ennill Gwobr Rowan Nick, sef y wobr ryngwladol fwyaf ei bri gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Awstralasia, a chymrodoriaeth adlunio’r wyneb ym Mharis drwy Ysgoloriaeth Llawfeddyg Plastig Ifanc EURAPS. Roedd Iain yn Ymgynghorydd locwm yng Nghaergrawnt cyn dychwelyd i Gymru yn 2012.
Yn 2018, cwblhaodd Iain Gymrodoriaeth Llawfeddygol Cutlers / Coleg Brenhinol y Llawfeddygon mewn Adlunio’r Glust a’r Wyneb ym Mharis gyda Dr Francoise Firmin. Ar ôl iddo ddychwelyd, cafodd ei wahodd i roi tystiolaeth i’r Comisiwn ar Ddyfodol Llawfeddygaeth yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon, a chyhoeddwyd yn ddiweddarach fod ei ddau waith ymchwil mawr (bio-argraffu 3D a Data Mawr) wedi’u dewis fel dau o’r pedwar maes o ddatblygiad technolegol sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf dros y ddau ddegawd nesaf. Mae Iain wedi golygu sawl gwerslyfr cyfeiriol ac wedi cyhoeddi dros 200 papur gyda mynegai-H o 35 a mynegai i10 o 87. Ar hyn o bryd, mae Iain ar y Pwyllgor Cynghori Arbenigol ar gyfer Llawfeddygaeth Blastig fel yr Arweinydd Academaidd a Golygydd Arbenigol ar gyfer Frontiers in Surgery.
Dyfarnwyd Arian Sefydlu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon i Iain yn 2019 trwy Gymynrodd Carol Rumney, i gefnogi ei ymchwil i Bio-argraffu Cartilag 3D ar gyfer Adlunio’r Wyneb, ac mae wedi cael gwahoddiad fel Athro Ymweld yn Sefydliad Meddygaeth Adfywiol Wake Forest (WFIRM), Gogledd Carolina, UDA ac Ysbyty Cyffredinol Massachusetts (MGH), Ysgol Feddygol Harvard, Boston, UDA. Bydd yn parhau i gydweithio ar waith ymchwil ag MGH drwy gyfrwng Ysgoloriaeth Ymweld Walter B Cannon o 2019 i 2021.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (April 2022)
‘Byddai gallu gwisgo sbectol heb iddyn nhw lithro i ffwrdd yn gwneud gwahaniaeth i mi’ (Mawrth 2022)
Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe (Mawrth 2022)
Bydd merch yng Nghymru yn gyntaf i elwa o ymchwil arloesol i bioprintio 3D gan ddefnyddio celloedd dynol (Gorffennaf 2021)
Pwy a ŵyr nerth y pren? (Tachwedd 2019)
Sefydliad
Prifysgol Abertawe