Kerry Hood

Yr Athro Kerry Hood

Uwch Arweinydd Ymchwil a Deon Ymchwil ac Arloesi yn y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (Ebrill 2020- Mehefin 2021)

Teitl y prosiect: Evaluate the impact of a medicines Safety Needs Indicator Tool in Child Health (SNITCH)


Mae Kerry yn Athro Treialon ac yn Ddeon Ymchwil ac Arloesedd ar gyfer y Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Rhwydwaith Unedau Treialon Clinigol cofrestredig ar gyfer y DU Cydweithredfa Ymchwil Clinigol y DU.   

Mae ganddi radd a PhD mewn Ystadegau ac mae wedi gweithio ym maes ystadegau meddygol ers 1996. Roedd rhan gyntaf ei gyrfa yn canolbwyntio ar ymchwil mewn gofal sylfaenol, ac yna yn 2006 sefydlodd Uned Treialon De-ddwyrain Cymru a dechreuodd ddatblygu portffolio ymchwil ehangach. Yn 2015 fe'i penodwyd i arwain uno tair Uned Treialon Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a chreu'r Ganolfan Treialon Ymchwil, lle bu'n Gyfarwyddwr tan 2023.  

Mae ei diddordebau ymchwil methodolegol penodol mewn dylunio treialon, cynnal treialon a chynhwysiant ymchwil gyda ffocws penodol ar dreialon cymhleth, tra mai'r meysydd pwnc y mae'n canolbwyntio'n bennaf arnynt yw gofal sylfaenol a heintiau.  Mae hi'n cydweithio'n eang ledled y DU ac Ewrop ar astudiaethau ymchwil gan ystod eang o gyllidwyr gan gynnwys NIHR, UKRI, yr UE a diwydiant. Mae ganddi dros 360 o gyhoeddiadau ymchwil a adolygir gan gymheiriaid ac ar hyn o bryd mae ganddi werth £32M o grantiau ymchwil fel cyd-ymgeisydd. Mae hi'n Gymrawd ac yn Ystadegydd Siartredig y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch, yn aelod o'r Gymdeithas Gofal Sylfaenol Academaidd a Chymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain.  


Yn y newyddion:

Cymru i chwarae rhan bwysig mewn treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19 (Mai 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

“Rwy’n cymryd rhan er mwyn fy mab” - treial gwrthfeirysol COVID-19 yn recriwtio 1000fed cyfranogwr yng Nghymru (Mawrth 2022)

Os ydych wedi derbyn prawf COFID-19 positif, gallwch chi fod o gymorth mawr i ymchwilwyr (Ionawr 2022)

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol 

Cymru i chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth gwrthfeiral i driniaethau newydd ar gyfer COFID-19 dros y DU gyfan (Rhagfyr 2021)

Sefydliad

Canolfan Treialon Ymchwil

Cysylltwch â Kerry

E-bost

LinkedIn