Daffodils

Dathlu'r gorau o ymchwil Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn dathlu enghreifftiau o ymchwil Cymru sy’n newid bywydau, a sut mae ein cymuned ymchwil, cleifion a chyfranogwyr yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru.

1. Anrhydeddau brenhinol

Mae ymchwil Cymru wedi cael cydnabyddiaeth frenhinol gyda Chronfa Ddata SAIL a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael eu hanrhydeddu.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod harneisio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth trwy ei Gronfa Ddata SAIL byd-enwog.

A siaradodd Regina Reyes, Arbenigwr Nyrsio Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am ei chyffro at gwrdd â’i Fawrhydi’r Brenin Siarl III ym Mhalas Buckingham ynghyd â'r Prif Swyddog Nyrsio Sue Tranka. Trefnwyd y digwyddiad i anrhydeddu ymdrechion ymroddedig nyrsys a bydwragedd a addysgwyd yn rhyngwladol ar hyd y degawdau.

2. Ein cyfranogwyr ymchwil ieuengaf

Dechreuodd ein cyfranogwyr ieuengaf eu teithiau ymchwil o'r eiliad y cawsant eu geni. 

Mae tua 200 o famau a'u babanod yn cymryd rhan yn astudiaeth ABA-feed i weld a allai cymorth ychwanegol wella parhad bwydo ar y fron yn llwyddiannus.

Cymerodd 8,000 o fabanod eraill o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, Ffrainc a'r Almaen ran yn yr Astudiaeth HARMONIE i adnabod triniaeth effeithiol i amddiffyn y babanod rhag clefyd anadlol difrifol.

3.  Arloesi a thechnoleg

Gall datblygiadau mewn technoleg arwain at effeithiau mawr mewn arloesi ymchwil, fel y dangosir gan ymchwilwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n defnyddio robotiaid o'r radd flaenaf dan arweiniad llawfeddyg i gynnal llawdriniaeth amnewid clun a phen-glin gyda chanlyniadau gwell i gleifion.

Datblygwyd ap drymio rhythmig newydd hefyd gan ymchwilwyr o Gymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn y gobaith o wella gallu symud a gwybyddol mewn pobl sy'n byw â chlefyd Huntington.

4. Creadigrwydd mewn ymchwil  

Nid yw creadigrwydd yn cydnabod ffiniau, ac yng Nghymru rydym yn adnabyddus amdano - fel y gwelir mewn sawl un o'n meysydd ymchwil:

Mae Esther Goodhew, therapydd lleferydd ac iaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi cyfuno’i hangerdd am gerddoriaeth gyda therapi iaith i greu’r côr cleifion mewnol cyntaf erioed yng Nghymru i helpu cleifion ôl-strôc i ddod o hyd i'w llais.

Mae Dr Mayara Silveira Bianchim, Arweinydd Cleifion a’r Cyhoedd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, wedi integreiddio cartwnau a ffeithluniau mewn modd creadigol yn ei hastudiaeth i hwyluso cyfathrebu â phlant y mae poen cronig yn effeithio arnynt.

Ac mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia yn ymchwilio'r effaith mae seibiannau byr "hanfodol" yn eu cael ar ofalwyr di-dâl yng Nghymru i'w helpu i gyflawni bywyd boddhaus ochr yn ochr â gofalu.

5. Gweithio gyda'n cymunedau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol

Mae ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o gymunedau amrywiol sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol, gan gydnabod bod ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae mewn sawl maes ymchwil.

Nod rhaglen addysg gymunedol gyfan Cymru, dan arweiniad ymchwilwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chanolfan PRIME Cymru, yw gwella'r nifer sy'n derbyn archwiliadau dilynol diabetes ymhlith pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Bydd astudiaeth arall, dan arweiniad Dr Paula Foscarini-Craggs, yn edrych ar y rôl y mae gweithgarwch corfforol yn chwarae wrth hyrwyddo lles pobl ar ôl eu profiad trawmatig gyda cheiswyr lloches sy’n cymryd rhan mewn addysgu.

6. Recriwtiwr Gorau

Roedd cyfanswm o 833 o astudiaethau ar agor yng Nghymru yn 2023.  O'r rhain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y recriwtiwr gorau gyda 3,258 o gyfranogwyr o Gymru wedi'u recriwtio mewn astudiaeth ledled y DU sydd â’r nod o atal babanod newydd-anedig rhag cael haint a allai beryglu bywyd.

7. Dewis amgen "blasus"

Gallai sudd llugaeron fod yn un o'r opsiynau triniaeth ar gyfer menywod â heintiau'r llwybr wrinol rheolaidd, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Dr Leigh Sanyaolu, sy'n edrych ar bethau positif a negatif yr opsiynau triniaeth amrywiol i ddatblygu cymhorthyn gwneud penderfyniadau.

Bob dydd, mae llawer o ymchwil anhygoel yn digwydd yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol i ddarganfod mwy.