Rhaglen Mynd i'r Afael â Chanser trwy Ymchwil
Cafodd y fenter 'Mynd i'r Afael â Chanser trwy Ymchwil' ei sefydlu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2024 i ddarparu dull uchelgeisiol, cydweithredol o wella canlyniadau canser i bobl Cymru. Fel rhan o'r fenter, bydd yna ymdrech benodol i gyflymu cyfranogiad mewn treialon clinigol o ansawdd uchel. Wrth wneud hyn, byddwn ni hefyd yn gwella ac yn lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad at ymchwil glinigol i'r cyhoedd a chleifion yng Nghymru a'u canlyniadau canser.

Ym mis Mehefin 2025, cafodd yr Athro Richard Adams ei benodi’n Arweinydd Ymchwil Glinigol Cenedlaethol ar gyfer canser i chwarae rhan allweddol wrth wella perfformiad cyflawni ymchwil canser ledled Cymru ac, yn benodol, ymchwil fasnachol i ganser, gan weithio'n agos gydag uwch gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd, yn ogystal â chydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Pherfformiad a Gwella’r GIG.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, darllenwch Mynd i'r Afael â Chanser trwy Ymchwil - Cydweithio a chyflawni i gleifion yng Nghymru.