SCALE logo

Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE)

Bydd y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) yn harneisio potensial Deallusrwydd Artiffisial (DA) ym maes gofal cymdeithasol, gyda’r nod o roi hwb i weithgarwch a chreu màs critigol mewn maes ymchwil trawsddisgyblaethol newydd a chyffroes sy’n symud yn gyflym.

Mae’r galw cynyddol a’r toriadau yng nghyllid gofal cymdeithasol yn creu heriau sylweddol i’r sector. Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig y potensial i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan greu gwasanaethau gofal cymdeithasol clyfrach, ystwythach a mwy effeithiol sy’n cefnogi ac yn gwella perthnasoedd dynol.

Lansio ni’r Ganolfan ym mis Ebrill 2025 ar ôl derbyn £1.8 miliwn o gyllid (contract cychwynnol o bum mlynedd) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae SCALE yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob cwr o Brifysgol Caerdydd ac yn hybu cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau a grwpiau ledled y DU. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe, CASCADE a CARE.

Amcanion

Gan fod cryn botensial i benderfyniadau anghywir ym myd gofal cymdeithasol arwain at niwed, bydd cyflwyno DA yn gofyn am dechnegau newydd i reoli risg a diogelwch. Mae’n rhaid i atebion hefyd fod yn gost-effeithiol, gan sicrhau nad oes rhaniad digidol yn lefel a safon y gofal a roddir.

Bydd SCALE yn sicrhau effaith go iawn trwy roi’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Byddwn ni’n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau byd gofal cymdeithasol oedolion a phlant, yn ogystal ag ymarferwyr a llunwyr polisïau er mwyn meithrin prosiectau hirdymor a chynaliadwy ar y cyd a sicrhau cyllid allanol.

Ymchwil

Bydd ein hymchwil yn cwmpasu pob maes Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion lle bydd DA (gan gynnwys Prosesu Iaith Naturiol, Gwyddor Data a Dadansoddeg, Roboteg, Cyfrifiadura Gweledol).
Gan fod gennym aelodau o staff yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol go iawn.

Ar y dechrau, byddwn ni’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • cefnogi gweithlu ac arweinyddiaeth gofal cymdeithasol
  • cefnogi oedolion, plant, gofalwyr a theuluoedd
  • dadansoddi data mewn ffyrdd newydd a diddorol