Health and Care Research Wales logo on top

Pencampwyr y bwrdd

Mae hyrwyddwyr Bwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn Gyfarwyddwyr Anweithredol sydd wedi'u henwebu gan sefydliad eu GIG i sicrhau bod ymchwil ar y radar ar lefel Bwrdd a bod proffil ymchwil yn cael ei godi ymysg staff a chleifion.

Gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n gyfrifol am ymchwil, yn ogystal â Chyfarwyddwyr R&D ym mhob sefydliad, bydd pencampwyr y Bwrdd yn:

  • datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwil fel sbardun allweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol da, cefnogi'r gwaith o hyrwyddo ymgyrchoedd ymchwil Cymru gyfan, ac
  • ymgysylltu â'r Cyfarwyddwr Gweithredol arweiniol a'r arweinydd Ymchwil a Datblygu i sicrhau bod gweithgarwch ymchwil lleol yn cael ei hyrwyddo a'i gefnogi, ei fonitro a'i adrodd yn effeithiol ar lefel y Bwrdd.

Cwrdd â phencampwyr ein Bwrdd

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Yr Athro Helen Sweetland

Helen Sweetland

Cafodd yr Athro Helen Sweeland radd mewn meddygaeth o Ysgol Feddyginiaeth Prifysgol Sheffield dros dri deg a phump o flynyddoedd yn ôl a bu’n gweithio i’r GIG nes iddi ymddeol o’i swydd glinigol yn 2020. Gwnaeth hyfforddi fel llawfeddyg yn Sheffield, cyn symud i Gaerdydd yn 1996 fel Llawfeddyg Ymgynghorol Mygedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro/Uwch-ddarlithydd Llawdriniaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bu’n gweithio fel Llawfeddyg Ymgynghorol Cyffredinol a Llawfeddyg y Fron. Hi oedd yr Arweinydd Clinigol Canolfan y Fron o 2017-2020. Mae’n meddu ar brofiad helaeth o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig, ac mae wedi hyfforddi llawer o lawfeddygon sydd bellach yn gweithio yn y DU a ledled y byd.

Mae gan Helen ddiddordebau academaidd mewn addysg feddygol israddedig ac ymchwil glinigol, megis technegau llawfeddygol newydd, gwneud penderfyniadau a rennir a geneteg canser y fron. Mae wedi ymgymryd â nifer o rolau arwain yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen MBBCh a Chyfarwyddwr Ansawdd. Ar hyn o bryd, Helen yw’r Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer y Ganolfan Addysg Feddygol (CU). Mae hi wedi cael rolau allanol sy'n cynnwys: arholwr allanol ar gyfer sawl Ysgol Feddygol ac fel Cydymaith Addysg y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn rhinwedd y swydd honno, mae hi wedi ymweld ag ysbytai ac ysgolion meddygol eraill yn y DU er mwyn sicrhau bod prosesau addysgu a hyfforddiant yn bodloni safonau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Ebost Helen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Yr Athro Keith Harding

Keith Harding

Bu’r Athro Keith Harding yn gweithio fel academydd clinigol o 1991 i 2022 yn canolbwyntio ar broblemau Gwella Clwyfau a welwyd mewn ymarfer clinigol. Ef oedd y meddyg ymgynghorol gyntaf ym maes gwella clwyfau yn y Deyrnas Unedig. Datblygodd ymarfer a oedd yn unigryw o ran ei ffocws, a helpodd i greu’r cwrs Gradd Meistr cyntaf ym maes Gwella Clwyfau a Chyweirio Meinweoedd yn y byd. Datblygu a dilysu'r offeryn Ansawdd Bywyd Cysylltiedig ag Iechyd cyntaf - Amserlen Effaith Clwyfau Caerdydd (CWIS). Ef yw cyd-ddyfeisiwr arwyddnod genynnol sy’n canfod clwyfau cronig a allai wella ymhlith clwyfau nad ydynt yn gallu gwella gydag arferion gorau cyfredol.

Mae wedi helpu Cymru i gael ei chydnabod fel gwlad flaenllaw yn y byd ym maes gwella clwyfau ac mae wedi cynnal cyfarfodydd mewn Prifysgolion eraill yn y DU, Awstralia a Singapore. Mae wedi sicrhau cyllid o amrywiaeth o ffynonellau academaidd, clinigol a masnachol i greu rhaglen gynhwysfawr ym maes gwella clwyfau. Yn fwy diweddar, mae wedi cymhwyso ei brofiad ym maes clwyfau i Arloesi Clinigol ac ef oedd Deon Arloesi Clinigol y Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd o 2013-2018. Mae wedi cyhoeddi dros 400 o bapurau, wedi ysgrifennu llawer o lyfrau, penodau ac wedi darlithio yn fyd-eang. Ef yw cyd-sylfaenydd a Phrif Olygydd yr International Wound Journal, sef un o’r cyfnodolion uchaf ei barch ym maes clwyfau.

Fe’i penodwyd yn CBE ym mis Ionawr 2013 ar gyfer ei wasanaethau i Feddygaeth a Gofal Iechyd. Mae ei Ymchwil, ei Addysgu a’i rolau eraill bob amser wedi mynd i’r afael â phroblem clwyfau ac arloesi mewn sawl agwedd ar ymarfer clinigol. 

Ebost Keith

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Carolyn Donoghue

Carolyn Donoghue

Mae Carolyn yn uwch-weithredwr a Chyfarwyddwr Anweithredol profiadol a medrus iawn, gyda phrofiad sylweddol yn y GIG ac mewn Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr. A hithau wedi cymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yn wreiddiol, datblygodd hi yrfa glinigol yn ddiweddarach — gan gynnwys cyfnod o amser yng Ngorllewin Awstralia — cyn symud at hyfforddi ac uwch-reoli. Mae Carolyn wedi ymgymryd â sawl rôl uwch yn y GIG ym Mryste cyn symud at addysg uwch ym Mhrifysgol Bryste, ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cofrestrydd Coleg.

Erbyn hyn, mae Carolyn wedi datblygu gyrfa bortffolio sy'n cynnwys rôl Ynad, Cadeirydd Prosiect Iechyd Meddwl Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru, Cadeirydd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru ac Aelod Annibynnol o Fwrdd y Llywodraethwyr, Prifysgol Gorllewin Lloegr. Mae hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gwirfoddol yn y gymuned leol.

Mae Carolyn yn eiriolwr brwd dros fudd theatr a chorau, ar ôl cymryd rhan mewn dramâu amatur a chorau lleol ers blynyddoedd lawer. Yn fwy diweddar, mae hi wrth ei bodd yn cymryd rhan yn Parkrun, boed yn gwirfoddoli neu’n rhedeg.

Ebost Carolyn

Iechyd a Gofal Digidol Cymru - Rowan Gardner

Rowan Gardner

Mae gan Rowan 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn busnesau arloesol gan gymhwyso dulliau cyfrifiadurol i wyddor bywyd a data cleifion i ddeall afiechydon a chanfod meddyginiaethau a thriniaethau newydd. Mae’n entrepreneur ac yn gynghorydd profiadol i gwmnïau sy’n tyfu’n gyflym ac mae’n un o sylfaenwyr PrecisionLife, cwmni sy’n ceisio ehangu meddyginiaeth fanwl i faes clefydau cronig.     

Cydnabyddir Rowan fel hyrwyddwr amrywiaeth yn entrepreneuriaeth STEM – cafodd ei chynnwys ar restr 50 Movers and Shakers in BioBusiness 2013, ac ar hyn o bryd mae’n gadeirydd Panel Gwobrwyo Arloeswyr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cartier Women’s Initiative sy’n ceisio cefnogi menywod i ddylanwadu ar entrepreneuriaid â grantiau a rhaglenni datblygu entrepreneuriaeth. Bu’n gweithio gydag arloeswyr cyfrifiadura ar y we a chyfrifiadur cwmwl yn CERN er mwyn helpu gwyddonwyr i ddefnyddio’r fframweithiau hyn mewn ymchwil gofal iechyd a fferyllol. 

Ebost Rowan

Addysg a Gwella Iechyd Cymru - Dr Ruth Hall

Dr Ruth Hall

Yn gymwysedig mewn meddygaeth, mae Ruth wedi bod yn ymarferydd mewn pediatreg ac iechyd plant, cyn arbenigo ym meddygaeth iechyd cyhoeddus yn y Gogledd ac yna gwasanaethu fel Prif Swyddog Meddygol Cymru rhwng 1997 a 2005.

Ers hynny, mae wedi dal swyddi anweithredol ar Fyrddau a rolau cynghorol, fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Iechyd y Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Bwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd, ac ar hyn o bryd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ers 2015, mae wedi bod yn cyd-gadeirio Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth, sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru wledig.

Mae’n Llywodraethwr yn Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gadeirydd gwadd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. 
Mae’n aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a’i Fwrdd yng Nghymru.

Ebost Ruth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Winston Weir

Winston Weir

Ar hyn o bryd, mae Winston Weir yn gyfarwyddwr anweithredol mewn ysgol ac yn gyfarwyddwr anweithredol Cymdeithas Tai dan arweiniad eglwys. Yn y ddau sefydliad, mae’n arwain ar Gyllid, gan gadeirio'r pwyllgor Cyllid. Mae ganddo dros 10 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Cyllid yn y GIG yn Lloegr ac 20 mlynedd o brofiad cyllid uwch. Bu’n gweithio i PriceWaterhouseCoopers LLP yn Birmingham cyn ymuno â'r GIG. 

Mae Winston hefyd yn meddu ar gymhwyster CPFA gyda phrofiad ôl-gymhwyso mewn rhaglenni Cyllid, caffael, gwella gwasanaethau a gwella costau yn y Sector Cyhoeddus.

Mae’n ymddiriedolwr elusen sy'n cefnogi lles ac addysg plant yn Harare, Zimbabwe.

Ebost Winston

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Yr Athro Diane Crone

Diane Crome

Mae’r Athro Diane Crone yn meddu ar dros 20 mlynedd o brofiad o Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr. Cyn ei chyflogaeth mewn prifysgolion, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol ac yng ngwasanaethau sylfaenol ac eilaidd y GIG. Roedd ei gwaith yn y rolau hyn yn cynnwys cyflwyno ymyriadau ffordd iach o fyw iechyd cyhoeddus, yn benodol ym maes gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a llesiant.

Ers symud i'r sector prifysgol, dyfarnwyd iddi benodiadau proffesiynol mewn dwy brifysgol yn y DU, ym maes ymarfer corff ac iechyd.

Mae'n aelod o Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar yr ymgyrch ‘Every Mind Matters’ ac ar hyn o bryd mae'n Athro ymarfer corff ac iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ebost Diane

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Professor Keith Lloyd

Keith Lloyd

Yr Athro Keith Lloyd yw Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n academydd clinigol sy'n arbenigo mewn seiciatreg. Cwblhaodd ei hyfforddiant meddygaeth cyn arbenigo mewn seiciatreg ac mae'n seiciatrydd cymunedol yn Abertawe. Mae rhoi’r un pwyslais ar iechyd meddwl ag ar iechyd corfforol yn ganolog i bopeth rwyf yn ei wneud.

Mae Keith yn ymrwymedig i gefnogi arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac arloesi mewn gwasanaethau. Mae'n brif ymchwilydd ar y rhaglen Cyflymu, sef cydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddor Bywyd Cymru. Mae'n helpu i droi syniadau arloesol yn dechnoleg, yn gynhyrchion ac yn wasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym.

Mae'r Athro Lloyd yn Gadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru a Chymdeithas Seiciatryddion Cymru; mae'n aelod o'r panel cyfeirio proffesiynol ar gyfer yr elusen iechyd meddwl, HAFAL. Mae'n Gadeirydd Bwrdd Cwmni Theatr Volcano ac yn ymddiriedolwr Heartbeat Trust UK.

Cyn cael ei benodi i'w swydd bresennol, bu'n Bennaeth NISCHR (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach) – corff Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb am bolisi, strategaeth a chyllid ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gan Keith ddiddordebau ymchwil ym meysydd iechyd meddwl cyhoeddus, hunanladdiad a defnyddio data iechyd a gesglir yn rheolaidd, gan gynnwys rheoli anhwylderau meddyliol mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig hunanladdiad a hunan-niwed, a safbwyntiau cleifion. Mae'n brif ymchwilydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Ebost Keith

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre - Yr Athro Andrew Westwell

Andrew Westwell

Cymhwysodd yr Athro Andrew Westell mewn meddygaeth o Brifysgol Leeds, lle cafodd ei PhD mewn synthesis cemegol yn 1994. Yn dilyn ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Loughborough, daeth yn uwch gymrawd ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham, gan gynnal ymchwil i ddarganfod cyffuriau canser cyn-glinigol gan arwain at nodi cyffur ymgeisiol clinigol newydd.

Yn 2006, symudodd Andrew i swydd fel Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fferylliaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddod yn Athro Cemeg Meddyginiaethol yn 2016. Mae wedi parhau â'i waith i ddarganfod cyffuriau gwrth-ganser ymgeisiol newydd sy'n targedu afiechydon datblygedig ac ymwrthol. Mae gwaith cydweithredol diweddar Andrew wedi arwain at gyffuriau ymgeisiol datblygedig newydd yn erbyn targed cyffuriau canser newydd o’r enw Bcl3, ac mae gwaith yn parhau i symud y prosiect hwn ymlaen i dreialon claf cyntaf sy’n targedu canser y colon a’r rhefr a chanser y fron sy’n ymwrthol ac yn fetastatig. Nod prosiectau ymchwil cysylltiedig eraill yw datblygu moleciwlau delweddu diagnostig canser newydd.

Ymhlith y rolau eraill y mae Andrew wedi ymgymryd â nhw yw bod yn Drysorydd ar gyfer Cymdeithas Ymchwil Canser Prydain (2004-2010), ac yn fwyaf diweddar, yn Ddeon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd (2018-2021). Mae hefyd wrthi’n gwasanaethu ar bwyllgor gwyddonol Prostate Cancer UK ac mae’n cadeirio’r Bwrdd Rhaglen ar gyfer Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru, sef prosiect seicoweithredol newydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod ei yrfa academaidd, bu’n awdur/cydawdur dros gant a hanner o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion gwyddonol rhyngwladol.

Ebost Andrew

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambwlans Cymry - Hannah Rowan

Helen Rowan

Mae Hannah wedi treulio’r wyth mlynedd diwethaf yn y sector elusennol yng Nghymru ar ôl dechrau ei gyrfa yn gweithio fel athrawes. Mae’n hyfforddwr profiadol, ac yn rhoi pwyslais ar ddatrys problemau lefel uchel a throsolwg strategol.

Ar hyn o bryd, mae Hannah yn gweithio fel Rheolwr Newid i Cyngor ar Bopeth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Cymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr ar gyfer yr holl gymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru.

Mae Hannah yn eiriolwr brwd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar ddiwylliant a pherfformiad sefydliad.

Ebost Helen