Nurse looking after man in hospital bed

Byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ym maes ymchwil

Pan gafodd y GIG ei sefydlu a’i lansio gan Aneurin Bevan yn 1948, hwn oedd y tro cyntaf i ysbytai, meddygon, fferyllwyr, nyrsys a deintyddion ddod at ei gilydd o dan un sefydliad i ddarparu gofal iechyd am ddim i bawb yn y DU.

Nawr mae'r GIG yn chwarae rhan hollbwysig mewn ymchwil a datblygu er budd cleifion a’r cyhoedd, ac mae wedi newid y dirwedd feddygol y tu hwnt i’r disgwyl.

Mae ymchwil y GIG yn sail i nifer o driniaethau a dulliau diagnosis o’r radd flaenaf a ddefnyddir heddiw. Yn ogystal mae corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod sefydliadau sy’n weithredol ym maes ymchwil yn darparu gwell gofal ac yn cael canlyniadau gwell i gleifion na sefydliadau’r GIG sy’n cynnal llai o waith ymchwil. 

Yng Nghymru, nodir y cysylltiad rhwng gwell gofal ac ymchwil o ansawdd uchel yn fframwaith cynllunio GIG Cymru ac mae’n sail i ran o’r galluogwyr allweddol ar gyfer ymchwil a datblygu sy’n sail i Gynlluniau Tymor Canolig Dros Dro ar gyfer sefydliadau’r GIG. Ynghyd â strategaethau a chanllawiau perthnasol eraill, mae’r galluogwyr yn seiliedig ar y Fframwaith safonau iechyd a gofal sy’n nodi ymchwil fel elfen graidd sy’n cyfrannu at ofal effeithiol.

Am y rheswm hwn, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob sefydliad yn y GIG i gefnogi ymchwil yn bwrpasol a, thrwy’r Cynllun Tymor Canolig Integredig, ddangos sut bydd cleifion Cymru’n cael cynnig cyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn ymchwil o ansawdd uchel fel rhan o ddarparu gwasanaeth.

Yn ogystal â hyn, un o nodweddion nodedig bwrdd iechyd prifysgol neu ymddiriedolaeth yw eu bod yn cefnogi staff sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil er budd cleifion o dan eu gofal a, thrwy adnoddau addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, yn meddu ar y gallu i ddenu a chadw’r staff gorau. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cydweithrediadau academaidd gyda phrifysgolion, a rhoi anogaeth a chefnogaeth i weithwyr meddygol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i ymgymryd ag ymchwil. Gall hyn olygu caniatáu i glinigwyr gael amser gwarchodedig a bennir mewn cynlluniau swyddi ar gyfer ymgysylltu'n briodol ag ymchwil, a chreu amgylchedd ble mae cymryd rhan mewn ymchwil wedi’i ymgorffori yng ngwaith y sefydliad o ddydd i ddydd. 

Cyllid cymorth a chyflawni lleol

Mae ymchwil iechyd a gofal yn weithgaredd craidd y GIG ac mae’n sicrhau y gall cleifion a’r cyhoedd gael cyfleoedd i fod yn rhan o astudiaethau ymchwil sy’n rhoi mynediad i driniaethau newydd, sy’n creu tystiolaeth i wella gwasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal. 

Mae pob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn rhan o Wasanaeth Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Er mwyn darparu ystod o wasanaethau ymchwil a datblygu lleol, mae pob sefydliad y GIG yn derbyn cyllid lleol gan Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru (ynghyd a chyllid o ffynonellau eraill), i gefnogi darparu astudiaethau ymchwil masnachol ac anfasnachol.

Mae’r Fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad gwasanaethau cymorth a chyflawni lleol yn sail i’r cyllid cymorth a chyflawni lleol a ddarperir i bob sefydliad Ymchwil a Datblygu y GIG, ac mae’n cynnwys amcanion, dangosyddion allweddol a thargedau Ymchwil a Datblygu’r GIG. Yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd ynghylch sefydlu astudiaethau a chynyddu cyfleoedd cleifion a’r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil, mae nod eglur i greu a chefnogi diwylliant ymchwil sy’n cyd-fynd ag anghenion y boblogaeth leol.

Mae gwybodaeth sy’n berthnasol i’r canllawiau gweithredu ar gyfer cyllid cymorth a chyflawni lleol ar gael isod: