Polisi ac arweiniad ar gyfer y GIG

Templed polisi cyllid ymchwil a datblygu y GIG

Gosododd Llywodraeth Cymru amcan cenedlaethol i sicrhau bod seilwaith ymchwil y GIG yn cael ei ddarparu’n effeithiol er mwyn datblygu capasiti ymchwil drwy ddefnydd priodol o gyllid cyflawni ymchwil, yn ogystal â buddsoddi incwm Ymchwil a Datblygu arall y mae sefydliadau’r GIG yn ei gynhyrchu. Y dangosydd allweddol sydd wedi ei osod i gyflawni’r amcan cenedlaethol hwn yw i sefydliadau’r GIG gael polisi cyllid cyfredol ‘mewn defnydd’.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cynhyrchu templed cyllid Ymchwil a Datblygu y GIG sy’n cynnwys y manylion a’r mecanwaith angenrheidiol ar gyfer rheoli cyllid ac incwm ymchwil y GIG, ei atebolrwydd a’i ddosbarthiad:

Gwybodaeth ategol ar gyfer ymgymryd ag ymchwil

Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau gwyddonol, moesegol ac ariannol uchaf, prosesau gwneud penderfyniadau tryloyw, trefniadau dyrannu cyfrifoldebau clir a threfniadau monitro cadarn. Mae Fframwaith polisi'r DU ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) yn nodi egwyddorion arfer da wrth reoli a chynnal ymchwil, a'r cyfrifoldebau dros eu bodloni.

Trefniadau llywodraethu ar gyfer pwyllgorau ymchwil moeseg

Mae’r trefniadau llywodraethu ar gyfer pwyllgorau ymchwil moeseg yn amlinellu’r egwyddorion, y gofynion a’r safonau ar gyfer Pwyllgorau Ymchwil Moeseg sy’n adolygu cynigion ymchwil sy’n berthnasol i gyfrifoldebau gweinyddiaethau datganoledig a’r Awdurdod Ymchwil Iechyd. Mae hyn yn cynnwys ymchwil sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaethau y mae Adrannau Iechyd y DU yn gyfrifol amdanynt. Mae hefyd yn berthnasol pan fo'r gyfraith yn gofyn am adolygiad gan Bwyllgorau Ymchwil Moeseg a bod y gweinyddiaethau datganoledig a'r Awdurdod Ymchwil Iechyd yn darparu ar gyfer yr adolygiad hwnnw.

Noddwr yr ymchwil sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod gan yr ymchwil gymeradwyaeth y Pwyllgor Ymchwil Moeseg, os oes angen, cyn i’r ymchwil ddechrau.

I gael penderfyniad pendant ynghylch a yw prosiect yn waith ymchwil (diffinnir ymchwil yn adran 3 o fframwaith polisi'r DU ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol) ac a oes angen adolygiad y Pwyllgor Ymchwil Moeseg arno, gweler yr offer penderfynu ar-lein ar wefan Awdurdod Ymchwil Iechyd y DU.