A large audience listens to a speaker presenting slides at a conference in a spacious, well-lit hall with rows of chairs and a stage.

Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025 - Ymchwil Heddiw; Gofal Yfory: dathlu 10 mlynedd o effaith.

Rydym yn falch o gynnig y gynhadledd fel digwyddiad hybrid a byddwch yn cael cyfle i ddewis a ydych am fynychu mewn person neu ar-lein. 

Nodwch: Os ydych yn mynychu ar-lein, ni fydd gennych yr opsiwn i ddewis pa sesiwn gydamserol yr hoffech ei mynychu, a dim ond yn y sesiynau sy'n cael eu cynnal yn y brif neuadd y byddwch yn gallu cymryd rhan. 

Mae ein cynhadledd yn ddigwyddiad hynod boblogaidd ac rydym yn rhagweld y bydd y lleoedd mewn person yn llenwi'n gyflym, ac felly rydym yn argymell eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi siom.


Sesiynau cydamserol wedi'u cadarnhau:

Beth mae DA a data yn ei olygu i ymchwil?

Dan gadeiryddiaeth yr Athro Reyer Zwiggelaar, Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Beth mae VPAG yn ei olygu i ymchwil? Beth mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yn ei olygu i'r seilwaith cyflawni ymchwil yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf? 

Cadeirydd Joanna Jenkinson, Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil a Datblygu Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain.

Beth mae arloesi yn ei olygu i ymchwil? Gwneud ymchwil yn wahanol. 

Dan gadeiryddiaeth Carys Thomas, Pennaeth Polisi, Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru.

Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i ymchwil? Archwilio anghydraddoldebau iechyd a thangynrychiolaeth mewn ymchwil.


Bydd rhagor o fanylion y digwyddiad gan gynnwys rhaglen y diwrnod, siaradwyr a gwobrau yn dilyn cyn bo hir. 


Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025 ar agor ar gyfer cyflwyniadau. Eleni rydym yn falch o gyhoeddi gwobr newydd, y wobr Ymgorffori ymchwil mewn arfer, sy'n ceisio dod o hyd i unigolion neu dimau sydd wedi cofleidio ymchwil a'i ymgorffori yn niwylliant eu sefydliad. Yn ogystal â'n gwobr newydd, eleni rydym hefyd yn derbyn enwebiadau ar gyfer gwobrau. Os ydych chi'n teimlo bod aelod o staff neu dîm wedi bod yn rhagorol yn eu maes, gallwch eu henwebu ar gyfer gwobr.

Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais isod fel y nodir yn y ddogfen ganllawiau 

-

Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XR

Am Ddim

Cofrestru

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd yn cau ar 2 Hydref.