Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol

Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol   

Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yn gytundeb rhwng pedair gwlad y DU a'r diwydiant fferyllol. 

Bydd yn darparu buddsoddiad sylweddol (£400 miliwn) i sector iechyd a gwyddorau bywyd y DU yn ystod 2024-2029, gan gynnwys £300 miliwn tuag at ehangu capasiti a gallu'r DU i gefnogi cyflawni treialon clinigol masnachol.  

Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol 

Sefydlwyd Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol ym mis Ebrill 2025 i sicrhau bod modd cyflawni ymchwil glinigol fasnachol yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn y DU, gan roi hwb i gystadleurwydd byd-eang sector gwyddorau bywyd y DU a chyfrannu at iechyd a chyfoeth y genedl.

Mae 21 o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol ledled y DU, gan gynnwys Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru. Mae Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru yn rhan o seilwaith ehangach Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru.

Beth mae'r Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol yn ei wneud?

Mae'r canolfannau’n gweithio gyda sefydliadau gwyddorau bywyd a seilwaith cyflawni ymchwil arall i gyflawni ymchwil a noddir yn fasnachol. Maent yn cefnogi statws y DU fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i gwmnïau arloesol ddod â'u portffolio ymchwil.

Mae’r canolfannau yn: 

  • adeiladu capasiti mewn ymchwil contractau masnachol, gan ddarparu staff a chyfleusterau pwrpasol i gynnal ymchwil fasnachol
  • darparu mynediad at rwydwaith o safleoedd sy'n weithredol yn fasnachol gydag amseroedd sefydlu a pherfformiad o safon aur
  • sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i gymryd rhan mewn ymchwil
  • cynyddu cynhwysiant ymchwil er mwyn sicrhau bod pobl o bob cymuned gymwys, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda'r baich mwyaf o afiechyd, yn gallu cymryd rhan mewn treialon clinigol
  • cefnogi a chyfrannu at Rwydwaith newydd o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol ledled y DU, gan weithio fel partner cydweithredol 

Mae Rhwydwaith o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol y DU yn cael ei sefydlu i gydlynu gweithgareddau ar draws y canolfannau yn y DU, gan ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol, cysondeb ac ymgysylltiad strategol, a gwella’r gallu i gyflawni ymchwil fasnachol, ac effeithlonrwydd yr ymchwil honno, ar draws y canolfannau

Cefnogi cyflawni ymchwil glinigol

Trwy gydweithio â phartneriaid masnachol a’r seilwaith ymchwil, mae Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru yn creu system cyflawni ymchwil glinigol gyflymach, fwy effeithlon, fwy hygyrch a mwy arloesol, gan gefnogi'r DU fel arweinydd byd-eang ym maes treialon clinigol.

Cysylltwch â’r tîm Diwydiant

Mae Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol  Cymru yn rhan o'n hystod o wasanaethau a chymorth ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd

E-bostiwch industry-research@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth.