
Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
Mae Banc Data SAIL yn fanc data poblogaeth cyfoethog a dibynadwy sy’n cynnwys biliynau o gofnodion wedi’u seilio ar bobl. Mae’n gwella bywydau trwy ddarparu data diogel, cysylltiadwy ac anhysbys i ymchwilwyr y gellir eu cyrchu a’u dadansoddi o unrhyw le yn y byd.
Yn wreiddiol yn fanc o ddata iechyd, rydym wedi ehangu ein cwmpas I gynnwys data gweinyddol i greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddatblygu carfanau hydredol cyfoethog ar gyfer ymchwil. Mae Banc Data SAIL yn cynnwys y data poblogaeth sydd wedi’I nodweddu orau yn y byd. Mae’r adnodd ymchwil hynod o ddefnyddiol hwn yn cynnwys ystod o ddata a metadata o safon uchel sy’n parhau i dyfu. Yn ogystal, rydym yn gallu gweithio gyda mathau newydd o ddata megis data testun-rhydd, delweddu, genetig a daearyddol.
Mae Banc Data SAIL yn darparu tystiolaeth byd go iawn ar gyfer rhagfynegi tueddiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol sydd â dylanwad bydeang