Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME)
Canolfan ymchwil sy’n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a brys yw Canolfan PRIME Cymru, sydd wedi ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.
Mae’n ganolfan Cymru Gyfan a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Abertawe.
Nod Canolfan PRIME Cymru yw gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ac yn rhyngwladol drwy:
- Wneud gwaith ymchwil o ansawdd uchel ar bynciau sy’n flaenoriaeth o ran polisi cenedlaethol sy’n cyfrannu at y dystiolaeth mewn gofal sylfaenol a brys
- Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu trosi i bolisi ac ymarfer