Uned Ymchwil Arennol Cymru (WKRU)
Ein cenhadaeth
Dod â budd i boblogaeth Cymru a thu hwnt, drwy ddarparu ymchwil cydweithredol, amlddisgyblaethol sy’n ateb problemau pwysig o ran iechyd arennol a gofal cymdeithasol.
Ein nodau strategol
- Gwella’r seilwaith sy’n cefnogi ymchwil arennol yng Nghymru.
- Cynnwys rhanddeiliaid (cleifion, teuluoedd a gofalwyr, comisiynwyr gwasanaeth, darparwyr gwasanaeth, yn ogystal ag ymchwilwyr) yng nghamau allweddol yr ymchwil, sef cynllunio ymchwil, cynnal ymchwil, a rhannu canlyniadau a gwelliannau dilynol mewn ymarfer.
- Adeiladu portffolio o ymchwil a ariennir gan ddyfarniadau allanol ar bob cam o’r llwybr, o ymchwil sylfaenol hyd at ddarparu gofal iechyd, gan arwain at newidiadau amlwg mewn ymarfer (ymchwil ag iddi effaith).
- Adeiladu portffolio o bartneriaethau diwydiannol mewn prosiectau ymchwil, gan arwain at newidiadau amlwg mewn gweithgaredd.
- Cysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o glefyd yr arennau, ei effeithiau clinigol a chymdeithasol, a rhannu canlyniadau ein hymchwil.