
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi penodiadau Uwch Arweinwyr Ymchwil
2 Mai
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi penodiadau ein Huwch Arweinwyr Ymchwil newydd.
Mae'r 20 unigolyn hyn o bob rhan o'r byd academaidd a'r GIG ac mae pob un yn dangos arweinyddiaeth ymchwil, rhagoriaeth ac effaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Dros y tair blynedd nesaf byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a mawreddog yn y wlad. Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.
Bydd disgwyl i Uwch Arweinwyr Ymchwil ddarparu arweinyddiaeth, gweithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr ar gyfer ymchwil iechyd a gofal, a chwarae rhan ganolog wrth fentora, cefnogi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru.
Byddant hefyd yn parhau i ddangos eu hymrwymiad i weithgareddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan neilltuo amser i gymryd rhan mewn paneli cyllido, byrddau neu bwyllgorau a chefnogi ystod o weithgareddau'r Gyfadran.
Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru: "Gwnaeth cynnydd amgylchedd ymchwil Cymru argraff fawr ar y panel; roedd nifer o aelodau'r panel wedi eistedd ar baneli dyfarnu Uwch Arweinwyr Ymchwil blaenorol a nodwyd fod cynnydd mawr yn cael ei wneud yn hyn o beth. Roedd ystod y ceisiadau'n rhagorol.
"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf."
Y rhestr lawn o Uwch Arweinwyr Ymchwil yw:
- Yr Athro Monica Busse-Morris, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Andrew Carson-Stevens, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Thomas Connor, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Yr Athro Deborah Fitzsimmons, Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Donald Forrester, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Richard Fry, Prifysgol Abertawe
- Yr Athro William Gray, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Kerenza Hood, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Nicola Innes, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Graham Moore, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Jane Noyes, Prifysgol Bangor
- Yr Athro Rhiannon Owen, Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Alan Parker, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Julia Sanders, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Jonathan Scourfield, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Richard Stanton, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro James Walters, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Gill Windle, Prifysgol Bangor
- Yr Athro Yvonne Wren, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Yr Athro Reyer Zwiggelaar, Prifysgol Aberystwyth