a_man_in_a_suit_presenting_at_podium

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi penodiadau Uwch Arweinwyr Ymchwil

2 Mai

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi penodiadau ein Huwch Arweinwyr Ymchwil newydd. 

Mae'r 20 unigolyn hyn o bob rhan o'r byd academaidd a'r GIG ac mae pob un yn dangos arweinyddiaeth ymchwil, rhagoriaeth ac effaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Dros y tair blynedd nesaf byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. 

Mae Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal mwyaf blaenllaw a mawreddog yn y wlad.   Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil. 

Bydd disgwyl i Uwch Arweinwyr Ymchwil ddarparu arweinyddiaeth, gweithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr ar gyfer ymchwil iechyd a gofal, a chwarae rhan ganolog wrth fentora, cefnogi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. 

Byddant hefyd yn parhau i ddangos eu hymrwymiad i weithgareddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan neilltuo amser i gymryd rhan mewn paneli cyllido, byrddau neu bwyllgorau a chefnogi ystod o weithgareddau'r Gyfadran. 

Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru: "Gwnaeth cynnydd amgylchedd ymchwil Cymru argraff fawr ar y panel; roedd nifer o aelodau'r panel wedi eistedd ar baneli dyfarnu Uwch Arweinwyr Ymchwil blaenorol a nodwyd fod cynnydd mawr yn cael ei wneud yn hyn o beth. Roedd ystod y ceisiadau'n rhagorol.

"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf." 

Y rhestr lawn o Uwch Arweinwyr Ymchwil yw: 

  • Yr Athro Monica Busse-Morris, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Andrew Carson-Stevens, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Thomas Connor, Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Yr Athro Deborah Fitzsimmons, Prifysgol Abertawe

  • Yr Athro Donald Forrester, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Richard Fry, Prifysgol Abertawe

  • Yr Athro William Gray, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Kerenza Hood, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Nicola Innes, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Graham Moore, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Jane Noyes, Prifysgol Bangor

  • Yr Athro Rhiannon Owen, Prifysgol Abertawe

  • Yr Athro Alan Parker, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Julia Sanders, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Jonathan Scourfield, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Richard Stanton, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro James Walters, Prifysgol Caerdydd

  • Yr Athro Gill Windle, Prifysgol Bangor

  • Yr Athro Yvonne Wren, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Yr Athro Reyer Zwiggelaar, Prifysgol Aberystwyth