Dysgwch am ymchwil
Mae ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysig i bob un ohonom ni.
Heb ymchwil, ni fyddai nifer o’r triniaethau a’r mathau o ofal rydyn ni’n eu derbyn gan y GIG heddiw ar gael.
Mae gan aelodau o’r cyhoedd rôl hanfodol i’w chwarae oherwydd na fyddai’r triniaethau a’r gofal gwell hyn yn bodoli heb bobl yn cytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.
Ar ben hynny, mae ymchwil yn ddewis triniaeth arferol i chi yn GIG Cymru. Efallai eich bod chi eisoes wedi clywed am dreialon clinigol, ond mae’r rhain yn un fath o astudiaethau ymchwil yn unig.
I ddysgu mwy, gwyliwch ein fideo byr am ymchwil.
Cadwch lygad allan ar ein digwyddiadau ar gyfer ein digwyddiad ‘Sôn am Ymchwil’ nesaf.
Mae’r rhain yn ffordd wych o ddysgu mwy am ymchwil mewn amgylchedd ymlaciedig, hwyl a rhyngweithiol sy’n deulu-gyfeillgar.