Merched yn gwrando

Gweithgarwch cyhoeddus mewn ymchwil

Bob wythnos, mae cannoedd o bobl yn helpu i ymchwil ym maes iechyd a gofal gael ei chynnal yng Nghymru. Mae ymchwil o safon dda yn hanfodol er mwyn ein helpu ni i ddod o hyd i driniaethau newydd a ffyrdd newydd o wella gwasanaethau iechyd a gofal. 

Nid yw’r ymchwil hon yn bosib heb gymorth a chyfraniadau’r cyhoedd. Gall hyn fod ar ffurf cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil unigol. Gall hyn hefyd fod trwy rannu o’u hamser a’u profiadau personol er mwyn helpu i hysbysu’r blaenoriaethau, y dyluniad, y dull cyflenwi a’r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwil er mwyn sicrhau ei bod yn fwy perthnasol i anghenion pobl. Gelwir hyn yn gynnwys cyhoeddus mewn ymchwil. 

Er mwyn i bobl allu cymryd rhan mewn ymchwil, mae angen i ni ddweud wrthyn nhw fod ymchwil yn cael ei chynnal a pha mor bwysig y mae eu cyfranogiad a’u cynnwys. Gelwir yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud er mwyn dweud wrth bobl am ymchwil yn ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n credu bod ymgysylltu ystyrlon â’r cyhoedd yn bwysig er mwyn cynnal ymchwil dda, ddiogel a foesegol a dylai fod yn rhan arferol o’r broses ymchwil.

Pan fyddwn ni’n sôn am y cyhoedd/aelodau o’r cyhoedd, rydyn ni’n golygu gofalwyr, cleifion, teulu a ffrindiau’r cleifion, darpar gleifion a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal.

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ddysgu pa weithgarwch cyhoeddus y gallwch chi gymryd rhan ynddo a sut i gymryd rhan, rydyn ni wedi’i rannu’n dair adran:

 

Helpwch gydag ymchwil (cynnwys y cyhoedd)

Defnyddiwch eich profiad fel aelod o’r cyhoedd i helpu’r ymchwilwyr i lunio ac i gynnal eu hastudiaethau ymchwil. Gallech chi fod yn defnyddio eich profiad byw fel claf, gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaeth i rannu’r hyn sy’n bwysig ei hystyried a sut gall y cynlluniau ymchwil effeithio ar y bobl sy’n cymryd rhan.

Cymerwch ran mewn ymchwil

Dysgwch am yr astudiaethau ymchwil sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig a darganfod a ydych chi’n gymwys i gymryd rhan.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan mewn astudiaethau, o lenwi arolwg am brofiadau eich sefyllfa neu’ch cyflwr, i roi sampl gwaed neu gymryd rhan mewn astudiaeth feddygol.