Llywodraethu
Sefydliad rhwydweithiol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid ar draws y GIG yng Nghymru, awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac asiantaethau eraill
Caiff ein gwaith ei arwain gan yr Athro Kieran Walshe sef Prif Ymgynghorydd Ymchwil yn Adran Gofal Iechyd y Boblogaeth, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda thïm o fewn Adran Ymchwil a Datblygiad, Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros bolisi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, strategaeth a chyllido. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn atebol - drwy’r Adran Ymchwil a Datblygiad a’r Prif Swyddog Iechyd - i’r Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd Bwrdd Cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dod â chynrychiolwyr rhanddeiliaid allweddol ynghyd er mwyn cynghori’r Cyfarwyddwr ynghylch materion strategaeth, cynllunio a chyflenwi.
Mae nifer o sefydliadau a grwpiau’n creu ac yn cyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys:
- Is-adran Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru
-
Tîm sy’n gyfrifol am osod polisi a chyfeiriad strategol, rheoli rhaglenni gwaith a gweinyddu cynlluniau cyllido Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Canolfannau ac unedau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a ariennir
-
Wedi’u lleoli mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil yng Nghymru gan fwyaf a dyfernir grantiau isadeiledd iddynt drwy broses gystadleuol er mwyn talu am rywfaint o’u costau craidd. Mae’r canolfannau a’r unedau hyn yn darparu capasiti a gallu hanfodol ar gyfer ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a disgwylir iddynt ddangos perfformiad parhaus o ran ennill grantiau a dyfarniadau ymchwil gan ystod eang o gyllidwyr. Hefyd, disgwylir iddynt gyhoeddi a rhannu eu canfyddiadau ymchwil mewn cyfnodolion effaith uchel a thrwy sianeli eraill, yn ogystal ag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill er mwyn darparu ymchwil sy’n diwallu anghenion ac sy’n cyfrannu at bolisi ac ymarfer.
- Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG
-
Mae gan bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru gyfarwyddwr ymchwil a datblygu sy’n atebol i aelod gweithredol o’r bwrdd, yn ogystal ag adran Ymchwil a Datblygu sy’n gyfrifol am gefnogi a chyflenwi ymchwil fel rhan o Wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Caiff yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eu hannog yn gryf i feddu ar eu strategaethau a’u cynlluniau ymchwil a datblygu eu hunain ac i lunio adroddiad blynyddol ar ymchwil a datblygu. Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG yn derbyn rhywfaint o ariannu ar gyfer cyflenwi ymchwil gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Maent hefyd yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu eu hadnoddau eu hunain (er enghraifft, trwy roi amser i weithwyr proffesiynol clinigol gymryd rhan mewn ymchwil ac arwain ymchwil) ac maent yn derbyn incwm ymchwil allanol gan gyllidwyr ymchwil a phartneriaid masnachol/diwydiant.
- Y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi
-
Fel rhan o’r Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi, mae’r Ganolfan yn darparu cefnogaeth ‘unwaith i Gymru’ megis cydlynu gwaith sefydlu astudiaethau, contractau a chostau. Mae’n rheoli’r cyfeiriadur ymchwil, yn gweithredu polisïau ariannu, ac yn darparu gwasanaeth cyfathrebiadau, ymgysylltu a chynnwys, a gwasanaeth hyfforddiant a gwybodaeth. Yn ogystal, mae’n darparu cymeradwyaethau rheoleiddiol fel rhan o Wasanaeth Cymeradwyo’r Deyrnas Unedig.
- Uwch-arweinwyr ymchwil
-
Grŵp o uwch ymchwilwyr o ledled Cymru a ddewisir ar sail gystadleuol yn seiliedig ar eu cyflawniadau fel arweinwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhai hyn yn darparu cyngor i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn gweithredu fel hyrwyddwyr a chefnogwyr ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru ac ar draws y byd.