alt

Ein gweledigaeth, ein nodau a’n hamcanion

Ein nod yw sicrhau bod ymchwil heddiw yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer gofal yfory.

Pwrpas Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw hyrwyddo, cefnogi a darparu trosolwg cyfunol o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod o’r ansawdd gwyddonol uchaf yn y byd, yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn gwneud gwahaniaeth i bolisi ac ymarfer mewn modd sydd yn gwella bywyd cleifion, pobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a’r cyhoedd yn rhan allweddol o’n gwaith er mwyn sicrhau bod yr ymchwil rydyn ni’n ei chefnogi yn berthnasol ac yn cael ei chyflwyno mewn ffordd effeithiol.

Rydyn ni’n ceisio cyrraedd ein nod trwy weithio mewn partneriaeth a thrwy bedwar prif nod:

Gosod yr agenda ar gyfer ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yn gweithio gyda’r holl randdeiliaid gan gynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd er mwyn sefydlu’r agenda ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol a datblygiad yng Nghymru, gan hyrwyddo ymchwil fel symbyliad i   arloesedd a gwelliannau mewn gofal cymdeithasol.

Cyllido a threfnu ymchwil

Rydyn ni’n cydlynu ac yn cysylltu ag asiantaethau cyllido ymchwil yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig er mwyn cynllunio a chyllido ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n anelu at wneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau ac i gynyddu lefel ymgysylltu Cymru i’r eithaf ym maes cyllido ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n cynnal ein cynlluniau cyllido ein hunain ac rydyn ni’n ymgysylltu â chynlluniau traws-gyllidwyr a chynlluniau partneriaeth gyda sefydliadau eraill.

Sicrhau’r capasiti a’r gallu i gynnal ymchwil ym maes iechyd a gofal 

Rydyn ni’n cydweithio fel rhwydwaith o brifysgolion, byrddau ac ymddiriedolaethau’r GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal yng Nghymru i greu a chynnal gallu a chapasiti ym maes ymchwil ac i gefnogi sefydliadau i arwain, i gynnal ac i gefnogi ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Defnyddio ymchwil er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol

Rydyn ni’n gweithio gydag arweinwyr systemau iechyd a gofal a’u sefydliadau er mwyn hyrwyddo’r defnydd effeithiol o ymchwil ym maes arloesedd a gwella, gan arwain at ledu a chynyddu’r gwelliannau hynny.