
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru adroddiad blynyddol 2024-2025
Rhagair y Gweinidog
Mae wedi bod yn flwyddyn arwyddocaol arall i ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb sy'n ymwneud ag arwain a chefnogi ymchwil ledled Cymru, yn enwedig i bawb sydd wedi neilltuo'u hamser i helpu i lunio a chymryd rhan mewn ymchwil, gan gynnwys cleifion y GIG ac aelodau o'r gymuned cynnwys y cyhoedd.
Eleni yw degfed pen-blwydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dros y degawd diwethaf, bu newid sylweddol yn amlygrwydd gwyddoniaeth ac ymchwil – yn enwedig y rôl sylweddol a chwaraeodd ein hymchwilwyr wrth ymateb i'r pandemig COVID-19. Rydym wedi parhau i adeiladu ar y rôl bwysig y mae gwyddoniaeth ac ymchwil yn ei chwarae mewn polisi ac ymarfer; enghraifft allweddol o hyn oedd datblygu Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – gan fynd â model Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i wasanaeth ymchwil a thystiolaeth prif ffrwd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi croesawu penodiadau'r Athro Isabel Oliver, sydd â chefndir cryf ym maes ymchwil a datblygu, fel Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru, a Gareth Cross fel Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Byddwn yn penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd ar gyfer Iechyd cyn bo hir, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth gyd-gyfarwyddo Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac arwain gallu cynghori gwyddonol iechyd a gofal Llywodraeth Cymru.
Mae digon i fod yn falch ohono. Yn 2022 fe wnaethom sefydlu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gryfhau llwybrau gyrfa ymchwil; piler craidd wrth adeiladu a chynnal system ymchwil iechyd a gofal o'r radd flaenaf. Mae Rhaglen Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio wedi ein helpu i sefydlu Canolfan Gyflenwi Ymchwil Fasnachol newydd yng Nghymru, gan weithredu fel rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer treialon clinigol arloesol a chreu cyfleoedd i brofi triniaethau newydd arloesol gyda'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu bod pobl yn cael mwy o fynediad at driniaethau arloesol yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi bron i £50 miliwn mewn cynaliadwyedd a chyllid catalytig ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil, gan gynnwys pum canolfan newydd, dros y pum mlynedd nesaf.
Mae yna ddatblygiadau nodedig ym maes ymchwil canser, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cyd-fynd â'n Rhaglen Trechu Canser drwy Ymchwil. Mae'r gwaith yn parhau i ymgorffori ymchwil ar draws y gweithlu cyfan, gyda'r prosiect PRIORITY, a gomisiynwyd gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllun gweithredu strategol newydd i gryfhau ymchwil ar draws nyrsio, bydwreigiaeth a'r 13 proffesiwn iechyd cysylltiedig. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi buddsoddiad o £600 miliwn, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Wellcome, i sefydlu Gwasanaeth Ymchwil Data Iechyd y DU. Mae yna gyfle gwych i Gymru roi cyfraniad sylweddol i'r gwaith hwn, o ystyried y safle blaenllaw yr ydym wedi'i datblygu ym maes ymchwil data iechyd drwy ein cefnogaeth a'n partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw SAIL.
Yn gynharach eleni, amlinellais fy mhum blaenoriaeth: ffocws ar atal, symud gwasanaethau i leoliadau cynradd a chymunedol, gyrru ein trawsnewid digidol a'n defnydd o ddata, cryfhau ein cydweithrediad rhanbarthol a gwella arweinyddiaeth y GIG a datblygu'r gweithlu.
Mae ymchwil yn sail i bob un o'r rhain. Gall gael effaith sylweddol ar wasanaethau a chleifion; mae'n helpu i ddarganfod, datblygu a gwerthuso ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau yn y gymuned. Mae'n ein helpu i ddefnyddio data'n fwy cynhyrchiol i ddatblygu triniaethau gwell, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a rheoli'r gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy effeithlon. Rydym hefyd yn gwybod bod amgylcheddau sy'n ddwys o ran ymchwil yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell i bobl, p'un a ydynt yn rhan o dreial ffurfiol ai peidio, a bod yr amgylcheddau hyn hefyd yn cynyddu boddhad a chadw staff.
Mae cymaint o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf – a'r cyfleoedd cyffrous sydd o'n blaenau – yn cyfrannu at bob un o'r meysydd blaenoriaeth hyn. Dyma sy'n gwneud gwyddoniaeth, ymchwil a thystiolaeth yn rhan drawsbynciol mor hanfodol o'n hecosystem yng Nghymru.
Drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwn yn parhau i hyrwyddo a chefnogi ymchwil iechyd a gofal, gan yrru ansawdd gwyddonol, sy'n berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wella bywydau pobl a chymunedau.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r gymuned ymchwil yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a pharhau i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu hyd yma.
Jeremy Miles AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ein blwyddyn ymchwil
Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous arall mewn ymchwil. Wrth i'n cynllun tair blynedd ar gyfer 2022-25 gyrraedd aeddfedrwydd, ac wrth i ni edrych yn ôl gyda balchder ar ddeng mlynedd o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud ein gweledigaeth ar gyfer hyrwyddo ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn realiti – gan gynnwys ein hymchwilwyr enghreifftiol sy'n gweithio yn y GIG ac mewn Addysg Uwch, ein canolfannau a ariennir, y Gyfadran, Llywodraeth Cymru ac awurdodau lleol, a'n partneriaid mewn diwydiant a chyrff proffesiynol. Mae ansawdd ac ehangder y gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y cyfnod hwn wedi bod yn ysbrydoledig, ac rydym wedi dangos bod Cymru'n parhau i chwarae rhan fawr wrth helpu i ddarganfod diagnosteg, therapïau a thriniaethau'r dyfodol, yn ogystal â'r rôl y mae ymchwil a thystiolaeth yn ei chwarae wrth helpu i lunio polisi yn ddomestig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn adeiladu ar yr etifeddiaeth hon i gryfhau ymchwil iechyd a gofal ymhellach yng Nghymru fel rhan bwysig ac angenrheidiol o'n hymdrechion i sicrhau Cymru iachach a thecach.
Mae cyflawniadau penodol y deuddeg mis diwethaf yn cynnwys:
- Seilwaith datblygu ymchwil
Ym mis Ionawr 2025 cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru £49 miliwn o gyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r canolfannau'n cynnwys pum strwythur newydd - Uned Firoleg Gymhwysol Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru a Chanolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg. Mae'r buddsoddiad hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer canolfannau blaenllaw fel Banc Data SAIL, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Partneriaeth (CASCADE), a bydd yn rhoi hwb i allu academaidd a faint o ymchwil o ansawdd uchel sy'n digwydd yng Nghymru. Cafodd y cyllid ei ddyfarnu ar draws dau gategori - dyfarniadau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy'n dod i'r amlwg.
- Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddygaeth Brand (sef y VPAG)
Ym mis Ionawr 2025 cyhoeddwyd y bydd cleifion yng Nghymru yn cael mwy o fynediad at driniaethau arloesol diolch i hwb o £400 miliwn o gyllid cyhoeddus-preifat, a bydd £300 miliwn ohono yn cryfhau'r seilwaith cyflenwi ymchwil masnachol ledled y DU. Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddygaeth Brand yn darparu £22.1 miliwn i Gymru er mwyn gwella'n sylweddol galluoedd Cymru i gynnal treialon clinigol masnachol. Trwy'r buddsoddiad hwn rydym yn anelu at gyflymu'r broses o gyflwyno treialon masnachol fel y gall triniaethau a therapïau newydd gyrraedd y farchnad yn gyflymach, gan fuddio cleifion a gyrru twf economaidd. Drwy alwadau ariannu, rydym wedi nodi meysydd lle gellir defnyddio'r cyllid i gael yr effaith fwyaf yng Nghymru, ac wedi sefydlu Canolfan Gyflenwi Ymchwil Fasnachol Cymru. Bydd hwn yn un o 21 Canolfan ledled y DU ac yn ffurfio Rhwydwaith Canolfannau Cyflenwi Ymchwil Fasnachol y DU – darparu mynediad i'r diwydiant at ddarpariaeth ymchwil llyfn a chydlynol.
- Iechyd menywod
Mae iechyd menywod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru ac mae cyfathrebu ynghylch materion iechyd menywod yn faes allweddol o fewn hyn. Ym mis Medi 2024 cyhoeddwyd lansiad prosiect blaenoriaethu iechyd menywod newydd, i nodi'r 'cwestiynau heb eu hateb' a'r bylchau mewn ymchwil ynghylch cyfathrebu ar bob agwedd ar iechyd menywod a merched 16 oed a hŷn. Fe wnaethom ddadansoddi dros 500 o ymatebion, gan arwain at restr fer o 17 cwestiwn a gafodd eu cyfyngu ymhellach i'r deg blaenoriaeth uchaf. Ymddangoswyd is-set o'r blaenoriaethau hyn wedyn mewn galwad canolbwyntio am ymchwilwyr iechyd menywod a lansiwyd ym mis Ebrill 2025.
- Cytundeb Sefydliad Prydeinig y Galon
Cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon gytundeb sylweddol gwerth £3 miliwn i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru trwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol. Mae'r cytundeb pum mlynedd yn golygu y bydd ymchwilwyr o Gymru yn gallu ymchwilio i feysydd allweddol o anghenion iechyd a gofal heb eu diwallu mewn pobl sydd â chyflyrau'r galon fel arrhythmia (curiad calon afreolaidd), clefyd y galon a heneiddio fasgwlaidd. Bydd y rhwydwaith, dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn dod ag ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr cleifion ac eraill at ei gilydd i wella'r broses o atal, diagnosis a thrin clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cytundeb yn gweld Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddi ymchwilwyr ac arweinyddiaeth allweddol, gyda BHF yn ariannu staff ymchwil ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth o ran ymchwil cardiofasgwlaidd mewn cymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu. Bydd ei fuddsoddiad hefyd yn cefnogi ceisiadau ymchwil trawsddisgyblaethol, a mynediad at ddata i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd.
- Cyflawni ymchwil
Drwy gydol 2024-25 rydym wedi cefnogi cyflawni ymchwil yng Nghymru drwy astudiaethau fel VAPOR, treial prawf anadl cyntaf y byd a gynhaliwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ceisiodd IRFLUVA, a noddwyd gan Brifysgol Caerdydd, benderfynu a allai cymryd atodiad bywyn gwenith syml wella'r ymateb imiwnedd hirdymor i'r brechlyn ffliw ymhlith pobl hŷn. Mae ymchwilwyr a chyfranogwyr o Gymru wedi chwarae rhan hanfodol mewn treial clinigol arloesol i werthuso effeithiolrwydd a diogelwch brechlyn norofirws mRNA newydd, Nova-301, a noddwyd gan Moderna. Enwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel yr unig safle yn y DU ar gyfer treial clinigol rhyngwladol, Edelife, a allai wella opsiynau triniaeth i gleifion yr effeithir arnynt gan gyflwr genetig prin, sy'n peryglu bywyd. Ym mis Chwefror 2025 derbyniodd y claf cyntaf yng Nghymru brechlyn BioNTech ymchwiliol ar Ddiwrnod Canser y Byd i drin ei math penodol ei hun o ganser y colon. Ym mis Mawrth, Ysbyty Treforys, Abertawe oedd y safle cyntaf yng Nghymru i ddechrau recriwtio ar gyfer treial BachB ledled y DU ar gyfer babanod sâl sydd angen help gyda'u hanadlu, diolch i gefnogaeth cyflenwi a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Cydweithrediadau Ymchwil Penderfynyddion Iechyd
Ym mis Ionawr 2025 daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn un o chwe Chydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd newydd i fynd yn fyw ledled y DU gyda chyllid gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Mae Torfaen yn ymuno â Rhondda Cynon Taf fel un o'r ddau Gydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd yng Nghymru sy'n elwa o'r buddsoddiad ymchwil o £55 miliwn, sydd â'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd i bobl ledled y DU. Mae'r partneriaethau llywodraeth leol arloesol hyn yn rhychwantu'r DU a byddant yn rhoi hwb i gapasiti a gallu ymchwil yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y DU.
- Uwch Arweinwyr Ymchwil
Cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ei charfan nesaf o Uwch Arweinwyr Ymchwil o bob rhan o'r byd academaidd, i ddarparu arweinyddiaeth, i weithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr ar gyfer ymchwil iechyd a gofal, ac i chwarae rôl ganolog wrth gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru drwy fentora, cyngor a chefnogaeth i'r gymuned ymchwil. Mae 20 Uwch Arweinydd Ymchwil wedi ymgymryd â'r rôl am y tair blynedd nesaf a byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, mentora ymchwilwyr gyrfa gynnar a datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil.
- Arweinwyr Arbenigeddau
Ym mis Mawrth cyhoeddwyd y penodiadau o'n 31 Harweinydd Arbenigedd Cymru newydd ar gyfer 2025-28, i barhau i hyrwyddo a chefnogi cyflawni ymchwil, adeiladu rhwydweithiau o brif ymchwilwyr o fewn eu harbenigedd, a chefnogi nifer y bobl sy'n ymgymryd ag astudiaethau ledled Cymru, fel rhan o Wasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Trwy'r broses benodi hon mae rolau Arweinydd Arbenigeddau newydd mewn delweddu a gofal lliniarol wedi'u creu, yn ogystal â phenodiadau mewn meysydd arbenigol sefydledig.
- Dyfarniadau Personol y Gyfadran
Ym mis Mehefin 2024 fe wnaethom lansio ystod newydd o gynlluniau dyfarnu personol drwy'r Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd ymchwil ar gyfer pob disgyblaeth, ar draws pob sector, ac ar bob cam o'r llwybr gyrfa ymchwil a rhoi hwb i nifer yr ymchwilwyr annibynnol sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru. Mae'r cynlluniau wedi'u strwythuro ar draws dau brif faes - y Cynllun Dyfarnu Datblygu Ymchwilwyr (gydag ystod o lwybrau dyfarnu wedi'u halinio â'n gweledigaeth o fwy o gyfleoedd datblygiadol i ymchwilwyr Cymru), a'r Cynlluniau Cymrodoriaeth Doethurol, Camau Nesaf ac Uwch. Bydd deiliaid y dyfarniad yn gallu cael mynediad at gyfleoedd datblygu personol ac ymchwilwyr trwy aelodaeth y Gyfadran am gyfnod eu dyfarniad.
- Grantiau prosiect newydd
Ym mis Hydref 2024 rydym yn cyhoeddi derbynwyr ein dyfarniadau prosiect, a ddyfarnwyd i ymchwilwyr nid yn unig am eu prosiectau unigol ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys therapi trawma, iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc, gofal sylfaenol i blant sâl, gwerthuso ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol, a sgrinio serfigol ar gyfer menywod sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol, ymhlith eraill. Bydd saith prosiect yn derbyn cyllid o dan Gangen 1 y Cynllun Cyllido Integredig (Ymchwil Drosiadol a Chlinigol) a Changen 2 (Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd).
- Cynhadledd blynyddol a digwyddiadau
Roedd iechyd menywod yn ganolog i'r llwyfan yn nawfed gynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda siaradwyr a phynciau yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae unigolion a thimau cyflwyno wedi'i chwarae yn llwyddiannau ymchwil Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Wedi'i chynnal gan ohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, gwelodd y gynhadledd, ar y thema Mae Ymchwil yn Bwysig, bron i 550 o bobl yn bresennol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, ac roedd yn cynnwys araith lawn gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton. Mae cynrychiolwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan ein partneriaid dros y flwyddyn, gan gynnwys 15fed pen-blwydd Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd, yn ogystal â lansio cytundeb cyllido ar y cyd gwerth £3 miliwn rhwng Sefydliad Prydeinig y Galon ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd drwy'r Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol, a Symposiwm Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a fynychwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Cynllun Gweithredu Cynhwysiant
Fe wnaethom gyfarfod â'n Grŵp Cynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Ionawr 2025 i ymgynghori ar y Cynllun Gweithredu Cynhwysiant sydd bellach wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol ar 18 Medi 2025 yn Senedd Cymru. Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bartneriaeth hefyd â'r Ganolfan Tegwch Ymchwil, Prifysgol Rhydychen ac mae'n cefnogi rhai elfennau o'u cynllun.
- Darganfod Eich Rôl 2.0
Rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024, fe wnaethom gasglu adborth ar ein cynllun pedair blynedd Darganfod Eich Rôl 2.0, i wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil yng Nghymru, trwy arolygon i nodi unrhyw rwystrau. Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom gyflwyno a chadarnhau 15 rhwystr allweddol, a luniodd ein dull symud ymlaen. Fe wnaethom gynnal digwyddiadau Cymuned Ymarfer, gan ymgysylltu â dros 180 o bobl o wahanol sefydliadau ac arweiniodd mewnwelediadau o'r digwyddiadau hyn y cam ymgynghori, a gynhaliwyd rhwng Medi 2024 a Ionawr 2025. Yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd, fe wnaethom fireinio'r cynllun gweithredu, gan ei gwblhau ym mis Mawrth 2025, gyda gweminar i aelodau'r cyhoedd ac ymchwilwyr er mwyn tynnu sylw at y meysydd ffocws a'r gweithgareddau, gyda lansiad swyddogol o'r Darganfod Eich Rôl 2.0 yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2025.
Cyflawniadau Ymchwil
Cyflawni Ymchwil
Recriwtiwyd 16,589 o gyfranogwyr i astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel
Cafodd 204 o astudiaethau sydd ar waith eu noddi'n fasnachol
Mae yna 605 o astudiaethau ymchwil anfasnachol o ansawdd uchel ar waith
Ein canolfannau a ariennir
Enillwyd 156 grant yn llwyddiannus
Gwerth y grantiau a enillwyd yw £34.5 miliwn
Cafodd 190 o swyddi newydd eu creu
Cyhoeddwyd 845 o gyhoeddiadau ymchwil
Ein cynlluniau a ariennir
Gwerth £7,645,396 ar draws 61 dyfarniad ac 11 cynllun*
* Galwadau a agorodd yn ystod y flwyddyn ariannol 2024-25
Materion ymchwil – Pobl mewn ymchwil
- Cynnwys y cyhoedd – Claire Bryant
Mae Claire Bryant (pedwerydd ar y dde) yn gynrychiolydd cynnwys y cyhoedd ar astudiaeth arloesol i glust ludiog, cyflwr cyffredin lle mae hylif yn cronni yn y gofod clust ganol gan achosi colled clyw dros dro. Arweiniodd yr astudiaeth, Daisydome, at ddatblygu system deallusrwydd artiffisial ar gyfer diagnosis awtomataidd o glust ludiog mewn plant, ac mae wedi bod yn parhau trwy gydol 2024-25, gyda mewnbwn y cyhoedd mewn arolwg o agweddau at y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (DA) mewn gofal iechyd. Mae cyllid hefyd wedi'i dderbyn gan y Cyngor Prydeinig ar gyfer prosiect dilynol sy'n cael ei gynnal ar y cyd â phrifysgolion yn Siapan, gyda'r nod o ddatblygu dyfais DA cost isel y gellir ei defnyddio ar gyfer diagnosis yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae Claire wedi bod yn rhan weithredol o'r astudiaeth o'r cychwyn cyntaf, ar ôl darganfod bod ei merch yn dioddef o glust ludiog ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn ei chael hi'n anodd llywio'r broses driniaeth trwy ofal sylfaenol ac eilaidd. 'Neidiodd ar y cyfle' i gymryd rhan yn yr astudiaeth, a bu'n rhan o greu fideo wedi'i animeiddio y gall plant a rhieni eu gwylio i ddeall yr ymchwil yn well. Roedd Claire hefyd yn gallu gweld y ddyfais ar waith yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gan gwrdd â phlant a rhieni fel ei gilydd a rhoi adborth drwy gydol yr astudiaeth.
- Uwch ymchwilydd - Yr Athro Rob Jones
Mae'r Athro Rob Jones yn Gyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn Athro Oncoleg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Brif Ymchwilydd ar dreialon FAKTION, a ymchwiliodd a allai ymchwilwyr wrthdroi neu oedi ymwrthedd i therapi hormonau mewn menywod ôl-menopos, y mae eu canser wedi lledaenu, trwy ychwanegu therapi wedi'i dargedu o'r enw Capivasertib at therapi presennol. Ym mis Mehefin a Gorffennaf 2024 cymeradwywyd Capivasertib gan Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn y drefn honno - y tro cyntaf i astudiaeth dan arweiniad Cymru arwain at drwyddedu cyffur o'r radd flaenaf i'w ddefnyddio yn y DU a'r Unol Daleithiau. Yn gynharach eleni, Gwen Buchan, o'r Barri, oedd y claf cyntaf yng Nghymru i ddechrau triniaeth gyda Capivasertib ar ôl derbyn triniaeth sylfaenol ar gyfer canser cychwynnol y fron 16 mlynedd yn ôl cyn cael diagnosis o ganser eilaidd y llynedd. Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, soniodd Gwen am ba mor bwysig oedd cadw gobaith, tra disgrifiodd yr Athro Jones dreial FAKTION a thrwyddedu Capivasertib ar gyfer cleifion y GIG fel 'stori lwyddiant fawr i Gymru.'
- Yr effaith ar gleifion – Emily Handstock
Mae Emily Handstock, 26, o Aberdâr, wedi brwydro gyda phoen mislif difrifol ers iddi fod yn 15 oed, sydd wedi effeithio ar sawl agwedd ar ei bywyd, gan gynnwys sefyll arholiadau yn yr ysgol. Ym mis Rhagfyr 2024 ymddangosodd mewn rhaglen newyddion BBC Cymru am ei phrofiadau a'i chyfranogiad i helpu i lunio astudiaeth ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o'r enw Nid yw Poen Mislif Difrifol yn normal (astudiaeth SPPINN). Nod yr astudiaeth yw archwilio effaith poen mislif difrifol ar draws gwahanol gymunedau a grwpiau oedran. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr astudiaeth yn cynhyrchu argymhellion i wella addysg a gofal o amgylch y cyflwr. Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol Dr Robyn Jackowich wrth y BBC ei gobeithion y byddai canfyddiadau'r astudiaeth yn helpu GIG Cymru i gyflawni nodau'r Cynllun Iechyd Menywod, drwy ddeall yn well yr hyn sydd ei angen mewn gofal iechyd ac addysg er mwyn cefnogi'n well yng Nghymru unigolion sydd â phoen mislif difrifol.
- Aelod o'r gyfadran – Savita Shanbhag
Mae Dr Shanbhag yn gweithio fel Arweinydd Canser Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle mae'n hyrwyddo diagnosis cynnar o ganser ac yn cryfhau cyfathrebu rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd ar lefel bwrdd iechyd a chenedlaethol. Mae arweinyddiaeth Savita wedi cael ei gydnabod gyda sawl anrhydedd, gan gynnwys Dyfarniad Arloesedd Cymeradwyo Hywel (2022) a Dyfarniad GIG Cymru (Enillydd, 2024). Mae hi wedi sicrhau gwerth dros £950,000 o gyllid ymchwil ac arloesi. Yn 2024, sicrhaodd y Dyfarniad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg , dan arweiniad tîm yr Athro Kate Brain ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar Gyd-astudiaeth Cancer Research UK sy'n ymchwilio i wasanaeth fferyllfa gymunedol ar gyfer diagnosis cynnar o ganser y coluddyn ac yn Gyd-ymgeisydd ar Grant Datblygu Rhaglen Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau wrth ganfod canser y coluddyn. Mae Savita hefyd wedi cyflwyno nifer o gyflwyniadau llafar a phoster mewn cynadleddau cenedlaethol yn 2024-25, gan gynnwys Cancer Research UK, MediWales a Chynhadledd Ymchwil Canser Cymru. Yn ogystal, mae Savita wedi defnyddio'r amser a ariannwyd gan ei dyfarniadau ar gyfer cydweithio ymchwil gyda thimau yng Nghymru a Lloegr, ac wedi bod yn llwyddiannus gydag ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.
- Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol – Siân Price
Mae Siân yn Fferyllydd Clinigol ac yn Brif Ymchwilydd ar gyfer astudiaeth Gofrestrfa Gwrthficrobaidd y DU ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan weithio gyda thîm sy'n angerddol am wella gofal cleifion drwy ymchwil. Yr astudiaeth, sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd gwrthficrobaidd ac a recriwtiodd ei glaf cyntaf ym mis Medi 2024, yw profiad cyntaf Siân o fod yn brif ymchwilydd. Gan weithio'n agos gydag adran Ymchwil a Datblygu'r Bwrdd Iechyd, mae'r tîm yn ymroddedig i sicrhau llwyddiant yr astudiaeth. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd targed recriwtio'r astudiaeth ac mae'n parhau i recriwtio cleifion i hyrwyddo dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhellach. Mae rôl Siân fel Fferyllydd Clinigol wedi caniatáu iddi ddod â phersbectif unigryw i ymchwil ac mae'n angerddol am drosi tystiolaeth yn ymarfer. Mae'r astudiaeth wedi caniatáu iddi gydweithio â thîm talentog a chyfrannu at ddatblygu gwybodaeth newydd a fydd o fudd i gleifion. Er ei bod yn fenter sylweddol, dywedodd Siân fod ei gwybodaeth a'i sgiliau ymchwil wedi gwella'n esbonyddol trwy'r amlygiad hwn. Yn ddiweddar iawn mae Siân wedi dechrau fel Prif Fferyllydd y Bwrdd Iechyd ar gyfer ymchwil a threialon clinigol, ac mae wedi derbyn cyllid Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddygaeth Brand i gwblhau dau gwrs ar-lein a argymhellir gan rwydwaith o fferyllwyr treialon clinigol ledled y DU i'w galluogi i ennill profiad pellach o dreialon clinigol masnachol.
Edrych Ymlaen
Yng Nghymru, fel gyda gweddill y DU, mae ymchwil yn parhau i esblygu, wedi'i yrru gan fuddsoddiad strategol, diwygio strwythurol, a chydweithrediad cynyddol.
Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru i gael Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru, a'n cyrff cyhoeddus, i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod ar y blaen gyda datblygiad 'Cymru Iachach'; ein strategaeth deng mlynedd ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n gosod y newid o ofal yn yr ysbyty i ofal cymunedol yn ei hanfod. Mae ymchwil yn rhan annatod o unrhyw ddull o fodloni'r disgwyliadau a nodir drwy'r ddeddf, ac yn strategaeth iechyd a gofal; heb ymchwil, ni allwn ddechrau dweud beth fydd y dyfodol yn ei ddwyn na datblygu triniaethau a modelau gofal newydd i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol.
Eisoes mae ein hymchwil wedi helpu i ddeall yn well yr heriau sy'n ein hwynebu. Y llynedd, fe wnaethom chwarae rhan allweddol wrth lunio adroddiad mawr ar amcanestyniadau clefydau yng Nghymru gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd, a oedd yn ei gwneud yn glir na fydd cynnal y dulliau presennol yn unig yn ddigonol. Mae hefyd yn bwysig i ni ddyfnhau ein dealltwriaeth o werth ymchwil a sut mae'n effeithio ar iechyd a lles y cyhoedd, gan gydnabod ei arwyddocâd wrth gryfhau a gwella iechyd y genedl.
Erys y ffaith bod pobl Cymru yn dioddef canlyniadau iechyd gwael, ac mae'r bwlch mewn blynyddoedd a dreulir mewn iechyd da rhwng y lleiaf a'r mwyaf difreintiedig yn cynyddu. Mae effaith pandemig Covid-19 a'r economi gythryblus wedi gadael argraff barhaol ac wedi cynyddu anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae angen ymchwil i'n helpu i ddeall a mynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau cymhleth hyn gan gyfeirio ein hymdrechion at yr ymyriadau sy'n gweithio.
Wrth edrych ymlaen, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gryfhau ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, gan adeiladu seilwaith cryf, ehangu ein gallu a'n capasiti, a meithrin ein talent arbenigol a'n cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr i gynhyrchu ymchwil ac arloesedd sy'n arwain y byd. Drwy dargedu ein hymdrechion yn unol â thystiolaeth wyddonol gadarn, byddwn yn gwella canlyniadau iechyd a gofal yng Nghymru, yn lleihau anghydraddoldebau ac yn cryfhau'r economi ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru