ENRICH Cymru logo

ENRICH Cymru

Caiff Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru ei gynnal ar y cyd gan Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac mae’n rhwydwaith ymchwil Cymru gyfan o gartrefi gofal sy’n cynorthwyo cyflwyno a hwyluso ymchwil o safon uchel sy’n mynd i’r afael â materion presennol yn y sector cartrefi gofal.

Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil ledled y wlad drwy ddod â staff cartrefi gofal, preswylwyr a'u teuluoedd at ei gilydd gydag ymchwilwyr.

Mae lle yn y rhwydwaith i bob cartref gofal sydd â diddordeb ymuno, p’un a ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil neu os ydych chi’n barod i gynorthwyo drwy gyflawni ymchwil yn eich cartref chi.

Bydd aelodau rhwydwaith ENRICH Cymru yn derbyn:

  • Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru a’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil a datblygu cartrefi gofal ledled y DU
  • Hyfforddiant ar-lein am ddim
  • Cyngor a chymorth ar oresgyn yr heriau o ran cyflenwi ymchwil mewn cartrefi gofal
  • Cefnogaeth i nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo astudiaethau

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost I aelod o’r tîm neu i ymuno â rhwydwaith ENRICH Cymru, llenwch y ffurflen ymaelodi â’r rhwydwaith cartrefi gofal sy’n barod ar gyfer ymchwil.

Mae rhwydwaith ENRICH Cymru yn gysylltiedig â rhwydweithiau rhanbarthol ENRICH ar draws Lloegr a’r Alban. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan ENRICH.

 

Staff Cartrefi Gofa

Caiff ymchwil ei wella pan fydd staff cartrefi gofal yn cael eu cynnwys wrth osod cwestiynau, penderfynu sut i gasglu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau ar beth sy’n wybodaeth bwysig i’w chylchredeg o ganlyniadau’r astudiaeth.

Gall gymryd rhan mewn ymchwil amrywio o ddosbarthu taflenni am ymchwil i breswylwyr i helpu i gynnal astudiaethau fel Hiraeth. Bwriad cynorthwyo ymchwil yw helpu i wella ansawdd bywyd preswylwyr a phobl eraill sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Buddion cymryd rhan mewn ymchwil yw:

  • cysylltiadau gwell gyda gwasanaethau cymunedol a rhwydweithiau cartrefi gofal lleol eraill
  • datblygiadau newydd sy’n ddefnyddiol i arferion bob dydd
  • hyrwyddo eich cartref gofal fel un sy’n chwarae rhan weithredol o ran darparu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
Ymchwilwyr

Mae ENRICH Cymru yn bwriadu cynyddu faint o ymchwil a gynhelir yn y sector gofal. Gall y rhwydwaith gynnig cymorth ac arweiniad i helpu i oresgyn yr heriau wrth gyflawni ymchwil ac wrth nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo mewn astudiaethau.

Dyma rai o’r rhesymau allweddol mae cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal yn hanfodol:

Gwella bywydau preswylwyr

Mae gwir newid mewn polisi a gofal, yn dod o’r dystiolaeth a gafwyd yn yr ymchwil. Po fwyaf o ymchwil a gynhelir, y gorau bydd ansawdd y gofal a ddarperir ledled y wlad.

Gwella mynediad i ymchwil

Mae preswylwyr cartrefi gofal wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil glinigol, gall agor mynediad i’r astudiaethau hyn wella recriwtio yn yr astudiaethau prin sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn helpu i ddatblygu’r arferion gorau

Gan fod preswylwyr wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil, mae rhai meysydd lle mae’r dystiolaeth i gefnogi arfer gorau yn wan. Mae’r diffyg tystiolaeth hyn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ymchwil newydd.

Codi’r safonau

Mae tystiolaeth ymchwil yn hanfodol i godi safonau gofal mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, fe wnaeth un astudiaeth ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff cartrefi gofal ac o ganlyniad fe wnaeth defnydd cyffuriau niwroleptig mewn preswylwyr heb ddementia leihau 50% heb waethygu symptomau ymddygiadol

Cartrefi gofal yn y rhwydwaith
  • Canolfan Gofal Sŵn-y-Môr, Scarlet Ave, Aberafan, SA12 7AH
  • Cartref Gofal Greenhill Manor, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4BE
  • Cartref Gofal Hengoed Court, Cefn Hengoed Rd, Winch Wen, Abertawe, SA1 7LQ
  • Cartref Gofal Hengoed Park, Cefn Hengoed Rd, Winch Wen, Abertawe, SA1 7LQ
  • Cartref Gofal Tŷ Hafod, Llantrisant Road, Llandaf, Caerdydd, CF5 6JR
  • Foxtroy House, Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9HD
  • Cartref Gofal The Old Vicarage, Sgeti, Abertawe SA2 9AS
  • Cartref Gofal April Court, Abertawe SA1 4DE
  • Trem y Glyn, Rhodfa’r Parc, Glyn-nedd, Castell-nedd, SA11 5DW
  • Plas Bryn Rhosyn, Plas Bryn Rhosyn, Heol Illtyd, Castell-nedd, SA10 7SE
  • Dan Y Bryn, Pontardawe, SA8 4PD
  • Llys Y Seren, Port Talbot, SA12 7BJ
  • Ty Brian, Wrecsam, LL13 7AF
  • Cartref Nyrsio Westhaven, Bae Colwyn, LL28 4DW
  • Haulfryn Care Ltd, Pistyll Hill, Cymau LL11 5ER
  • Old Convent Nursing Home Ltd, Hen Golwyn
  • Cartref Nyrsio Plasgwyn, Criccieth LL52 0PT
  • Cartref Nyrsio’r Bwthyn, Yr Wyddgrug, CH7 1QS
  • Cartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog, Ll49 9PR
  • Fairways Care Ltd: Cartref Nyrsio Ceris Newydd
  • Fairways Care Ltd:  Canolfan Gofal Dementia Glyn Menai
  • Fairways Care Ltd: Canolfan Gofal Dementia Tŷ Cariad
  • Fairways Care Ltd: Cartref Nyrsio Fairways
  • Cartref Gorffwys Aingarth, Conwy, Ll28 4TP
  • Cartref Preswyl a Henoed Eiddil eu Meddwl Bryn Edwin Hall, Y Fflint CH6 5LH
  • Ty Penrhos, Castlegate, Caerffili CF83 2AX 
  • Cartref Preswyl Llys Y Bryn, Gelli Rd, Llanelli SA14 9AD
  • Cartref Nyrsio Park House Court, Narberth Rd, Tenby SA70 8TJ
  • Cartref Nyrsio Williamston, Houghton, Aberdaugleddau SA73 1NL
  • Cartref Nyrsio Ashdale, Penfro, SA71 4PR
  • Cartref Gofal Ysguborwen House, Aberdâr, CF44 0AX
  • Cartref Gofal Meddyg: Porthmadog, LL49 9BN
  • Cartref Gofal Meddyg: Bryn Awelon, LL52 0LN
  • Cartref Gofal Meddyg: Criccieth, LL52 0DE

Pobl a chysylltiadau cymunedol:

Dr Victoria Shepherd - Cadeirydd Bwrdd Cynghori ENRICH Cymru ac Uwch Cymrodor Ymchwil yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia Research


Newyddion:

Faint mae'r amgylchedd mewn cartref gofal yn effeithio ar ansawdd bywyd? (Awst 2022)

Beico i lawr lôn atgofion (Mehefin 2022)

Prosiect ymchwil i bwysigrwydd y Gymraeg mewn cartrefi gofal (Mai 2022)

Dyfodol cyffrous gyda phenodiad rheolwr ymchwil newydd ENRICH Cymru (Ebrill 2022)

“Ni allwn fod wedi cynnal fy astudiaeth heb gymorth rhwydwaith ENRICH Cymru a’r cysylltiadau y gwnes i eu datblygu yn y cartrefi gofal" (Tachwedd 2021)

Rhwydwaith ENRICH Cymru’n ehangu i alluogi mwy o ymchwil (Awst 2021)

Diwrnod cefnogi a chyflenwi 2021 – yr hyn a ddysgwyd am ENRICH Cymru (Mehefin 2021)

Galw am i gartrefi gofal Cymru fod yn rhan o dreial COVID-19 newydd (Mai 2021)

Contact details

Email

Twitter

Adroddiadau Blynyddol

Mae ENRICH Cymru wedi'i gynnwys yn adroddiadau blynyddol CADR